Dyma gyfrol ymarferol gan Heledd Wyn ar gyfer creu cynnwys creadigol gweledol. Prif bwrpas y gyfrol yw cynnig sgiliau sylfaenol a chanllawiau penodol ar gyfer pob agwedd ar gynhyrchu cynnwys digidol gweledol o'r syniad i'r sgrin. Mae hon yn gyfrol ryngweithiol sy'n cynnwys clipiau fideo.
Syniad i'r Sgrin – Heledd Wyn
T. Llew Jones (2015)
Mae T. Llew Jones yn gyfarwydd i'r rhan fwyaf ohonom fel awdur a bardd plant. Swynodd genedlaethau gyda'i straeon am Barti Ddu, Twm Siôn Cati a Siôn Cwilt ac roedd hefyd yn brifardd a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith o'r bron. Yn y rhaglen yma gyda Beti George, down i 'nabod y dyn y tu ôl i'r ffigwr cyhoeddus fel tad, athro a dyn creadigol. Silin, 2015.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tair Chwaer (1996)
Drama wedi'i lleoli yn ardal y Tymbl ger Llanelli sy'n dilyn hynt a helynt tair chwaer sy'n perfformio mewn gr?p canu gwlad. Mae Sharon, Lyn a Janet yn defnyddio'r grwp fel dihangfa o'u bywyd beunyddiol ac mae'r gyfres yn olrhain eu problemau, eu breuddwydion, eu rhywioldeb, eu caru a'u cecru.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Taith yr Iaith (2006)
Gwyneth Glyn sy’n dilyn taith yr iaith Gymraeg o’i gwreiddiau yn Rwsia hyd ei sefyllfa bresennol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Talcen Caled
Cyfres deledu sy’n olrhain hanes teulu Les a Gloria yn wyneb caledi wrth i’r cwmni y mae Les yn gweithio iddi fynd yn fethdalwyr. Dilynir ef wrth iddo chwilio am waith, a cheisio cael dau pen linyn ynghyd.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Teledu a'r Gynulleidfa Fyddar a Thrwm ei Chlyw
Dyma adnodd sydd yn trafod sut mae teledu (ac yn benodol teledu digidol) yn diwallu anghenion cynulleidfa fyddar neu drwm ei chlyw. Mae'n rhoi cyflwyniad i'r ymchwil academaidd yn y maes, yn trafod beth yw'r gofynion ar y darlledwyr ac yn ystyried canlyniadau arolwg a wnaed yn 2013 yn gofyn yn benodol am argraffiadau'r gynulleidfa fyddar a thrwm ei chlyw yng Nghymru o'r ddarpariaeth ar deledu digidol. Ystyrir beth yw'r heriau a wynebir gan y gynulleidfa hon wrth geisio deall a mwynhau cynnwys ar deledu. Bwriad yr adnodd yw sicrhau bod deunydd ar gael sydd yn galluogi myfyrwyr i ystyried bod natur cynulleidfa yn amrywiol, a bod gofynion gwahanol yn dibynnu ar eu anghenion. At hynny, mae'r adnodd yn trafod pam fod hygyrchedd gwasanaethau yn bwysig yn gymdeithasol. Mae'r adnodd hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr sy'n astudio'r Cyfryngau, er y gall fod yn addas i fyfyrwyr sydd yn astudio Gwyddorau Cymdeithasol. Gellid defnyddio'r adnodd yma fel gwaith darllen ar gyfer darlith a/neu seminar ar fodiwl lle ystyrir y Cyfryngau a Chymdeithas, Iaith a'r Cyfryngau neu Gynulleidfaoedd.
Teulu Bach Nantoer (2013)
Teulu Bach Nantoer gan Moelona yw'r nofel fwyaf poblogaidd a ysgrifenwyd erioed i blant yn y Gymraeg. Ganrif ers ei chyhoeddi, gyda'r stori bron yn anghofiedig, mae Beti George yn mynd ar drywydd yr awdur, y dylanwadau oedd arni a'r effaith gafodd hi a'i nofel eiconig ar genhedlaethau o blant. Drwy gyfres o ddramodigau'n seiliedig ar y llyfr, bydd cyfle i genhedlaeth newydd ddod i adnabod y llyfr am y tro cyntaf ac i'r rai ddarllenodd y nofel yn blant, fwynhau'r hanes unwaith yn rhagor. Unigryw, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr a’r Genedl 2013/14
Dyma recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2013/14. Cynhaliwyd y gynhadledd ym mis Ionawr 2014 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Theatr Genedlaethol Byw - Macbeth
Bydd angen menwgofnodi i gael mynediad i'r adnodd hwn.
Noder bod y ffeil wreiddiol ansawdd uchel yn 19GB o faint. Gallwch lawrlwytho fersiwn ansawdd is (660MB neu 2.3GB) drwy glicio ar y tab Atodiadau uchod.
Theatr Genedlaethol Cymru (2006)
Cyfres ddogfen newydd sy’n codi’r llen ar flynyddoedd cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr, Perfformiad a Thechnoleg 2015/16
Dyma recordiadau sain o gynhadledd gydweithredol Astudiaethau Theatr a Drama 2015/2016.
Cynhaliwyd y gynhadledd ar y 29ain a'r 30ain o Ionawr 2016 yn yr Atrium, Prifysgol De Cymru, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Tipyn o Stad (2002)
Cyfres ddrama yn dilyn hynt a helynt trigolion stad Maes Menai.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.