Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Brwydr Llangyndeyrn (2013)
Rhaglen arbennig a ddangoswyd gyntaf ym mis Hydref 2013 i nodi 50 mlynedd ers ymgyrch lwyddiannus i atal Cyngor Abertawe rhag boddi Cwm Gwendraeth Fach a'r ffermydd cyfagos. Yr actores Sharon Morgan fu'n teithio yn ôl i fro ei mebyd i ddarganfod mwy am hanes cudd Brwydr Llangyndeyrn. Brwydr gan y gymuned oedd hon, a chawn gyfweliadau â'r ffermwyr a chwaraeodd rôl bwysig yn ogystal ag aelodau o'r gymuned ehangach. Wrth glywed yr hanes, bydd Sharon yn holi ac yn dadansoddi pam yr ydym ni fel cenedl yn cofio ein methiannau fel boddi Cwm Celyn yn hytrach na chanolbwyntio ar ein llwyddiannau. Tinopolis, 2013.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byd o Liw: Y Rhyfel Mawr (2008)
Yn y rhaglen hon a fydd yn cofio'r Rhyfel Mawr 90 mlynedd ar ôl iddi orffen, mae Osi yn edrych ar gynfas eang o fudiadau celf y cyfnod a ddarluniodd ryfel mewn ffordd gwbl newydd a chwyldroadol. Cyn y Rhyfel Mawr, roedd arlunwyr yn dueddol o ramantu rhyfeloedd a milwyr trwy ddarluniau a oedd yn aml iawn wedi'u comisiynu.Ond mae arlunwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos dioddefaint a chreulondeb rhyfel mewn ffyrdd uniongyrchol a blaengar. Fe ddylanwadodd y rhyfel yn drwm ar gynnwys lluniau. Mae'r rhaglen yn dangos sut y gwnaeth yr arlunwyr yma ddarlunio rhyfel fel rhywbeth creulon ac annynol er gwaethaf pwysau o lywodraethau gwledydd fel Prydain, Ffrainc a'r Almaen i arlunwyr bortreadu rhyfel fel rhywbeth nobl, aruchel i hybu propaganda rhyfel. Gan ffilmio ar feysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys, cawn weld sut y gwnaeth profiadau tywyll rhyfel ddylanwadu ar arlunwyr Ewropeaidd fel Otto Dix, Picasso, Stanley Spencer, David Jones a Frank Brangwyn. Zip TV, 2008.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bywyd Coll Lloyd George (1996)
Rhaglen am un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif, pensaer y wladwriaeth les, a Phrif Weinidog Prydain Fawr. Yn ôl A. J. P. Taylor, Lloyd George oedd arweinydd mwya' Prydain ers Oliver Cromwell. Mae'r rhaglen hefyd yn sôn am ddarganfod ffilm golledig am fywyd y Prif Weinidog hyd at 1918. Dangosir darnau o'r ffilm hwnnw yn y rhaglen hon. Teliesyn, 1996.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Canrif y Werin: Y Rhyfel Mawr (1999)
Canol haf 1914 a phobl Cymru yn mwynhau ar draethau a blodyn y diniwed o hyd oedd y pabi coch. Ond erbyn Awst 1914 daeth tro ar fyd. Yr hyn oedd yn wynebu Cymru oedd rhyfel cyflawn, rhyfel fyddai'n mynnu cyfraniad gan pob aelod o'r cymdeithas. Yr oedd y Cymry fel gweddill pobl Ewrop ar y dibyn, yn wynebu cyflafan ar lefel hollol anhygoel. ITV Cymru, 1999.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caradoc Evans: Ffrae My People (2015)
Yn 1915 cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion yng Nghymru greodd storm o atgasedd yn erbyn yr awdur a'i waith. Roedd byd tywyll Caradoc Evans yn 'My People' yn ddarlun hunllefus ac heriol o fywyd y capeli a'r gymdeithas Gymraeg wledig. Gorchmynodd Prif Gwnstabl Caerdydd i gopiau o'r llyfr gael eu llosgi'n gyhoeddus. Disgrifiodd y 'Western Mail' y straeon fel 'the literature of the sewer' gan ddweud mai Caradoc oedd '...the best-hated man in Wales'. Ni welwyd y fath gasineb ym myd y celfyddydau yng Nghymru - gynt nac wedyn. Ond erbyn heddiw prin ydy'r bobl sy'n cofio'r straeon na'u hawdur a gorddodd y dyfroedd yng Nghymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach bydd Beti George yn mynd ar drywydd Caradoc Evans gan rannu blas o'i straeon gothic. Bydd yn olrhain ei ddylanwad pellgyrhaeddol ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac yn holi beth yn ei fagwraeth yn Rhydlewis, yn ne Ceredigion, a yrrodd Caradoc i greu byd sinistr 'My People'? Gorilla, 2015.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Carwyn (2009)
Bydd dyn wedi croesi'r hanner-cant yn gweld yn lled glir y bobol a'r cynefin a foldiodd 'i fywyd e...' Drama-ddogfen gan T. James Jones a Dylan Richards gydag Aneirin Hughes fel Carwyn James yn ei ddyddiau olaf, unig yn Amsterdam, gan wynebu marwolaeth gynnar ac yn edrych yn ôl dros fywyd o fuddugoliaethau a siom. Roedd ei lwyddiant ym myd 'macho' rygbi - gan drechu'r Crysau Duon gyda'r Llewod a Llanelli - yn dod â phris uchel o ddolur y meddwl a'r corff. Bydd chwaraewyr megis Barry John a John Dawes, cyfeillion a chyd-weithwyr agos, a'i frawd Dewi yn cyfrannu at ddarlun cyflawn o un o gewri'r gêm, gwladgarwr diwylliedig ac enaid mawr, bregus yn ddiodde i'r eithaf. Green Bay Media, 2009.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cof Patagonia (2002)
Hanes llafar yr ugeinfed ganrif yn Nhalaith y Chubut Ariannin, wedi’i fynegi trwy luniau ac atgofion personol disgynyddion y gwladfawyr cyntaf. Roedd hi’n ganrif a welodd gyffro anhygoel a pheryglon diri, yn enwedig gan y mewnfudwyr rheiny a oedd bellach yn Archentwyr.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Yr Athro Syr Deian Hopkin yn siarad â myfyrwyr ar 20 Mawrth 2014 ynglÅ·n â sut i goffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ystod canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Cofio Saunders Lewis (1985)
Gwyn Erfyl yn cyflwyno rhaglen deyrnged i Saunders Lewis. Ar 14 Gorffennaf 1984 bu darlith a chyflwyno cerfluniau i'r Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol. Detholiad o'r noson yw'r rhaglen yma. Ceir cyfweliadau gyda Syr Alun Talfan Davies, Dewi Watcyn Powell, Dr Geraint Gruffydd, Dr Raymond Edwards, Dr Meredydd Evans, Canon Allchin, Ivor Roberts Jones, Emyr Humphreys, yr Esgob Mullins, Emrys James, Syr Alun Oldfield Davies, Maureen Rhys, John Ogwen a Dr Prys Morgan. ITV Cymru, 1985.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cofio Tryweryn (1984)
Yn y rhaglen hon cawn atgofion rhai o hen deuluoedd a thrigolion Tryweryn am y gymdeithas cyn ei chwalu, hanes y cyfnod cyn gadael yr ardal am y tro olaf a'r tristwch a chwerwder o weld adfeilion y pentref. HTV Cymru, 1984.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.