Brodor o bentref Penisarwaun ym mhlwyf Llanddeiniolen yn Arfon oedd Ellis Williams. Pan oedd yn 28 oed fe'i cyhuddwyd o botsio ffesant ar dir Stad y Faenol ac yn ôl yr hanes, fe'i gorfodwyd i adael Cymru neu wynebu gweld ei deulu yn colli eu fferm, oedd yn eiddo i'r Stad. Felly, yn 1908, aeth i Batagonia, lle bu am gyfnod yn gweithio fel gaucho. Mae ei lythyrau at ei deulu'n sôn am ei fywyd caled yn marchogaeth hyd at 70 milltir y dydd ac yn byw am fisoedd o dan y sêr a hynny mewn gwlad a oedd ar y pryd yn llawn dihirod. Pan aeth pethau'n fain ar ffermwyr y Wladfa, penderfynodd hel ei bac am Awstralia. Ond 'doedd pethau ddim yn hawdd iddo yno 'chwaith fel y tystia ei lythyrau cyson. Daeth cysgod y Rhyfel Byd Cyntaf dros y tir, ac fe listiodd Ellis ym myddin Awstralia. Fe'i gyrrwyd i Ffrainc, ond parhaodd i lythyru adref hyd y dydd hwnnw pan gafodd ei ladd ym Mrwydr y Somme ac yntau'n ddim ond 38 oed. Sianco, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llythyrau Ellis Williams (2006)
Llwybr Defaid (1993)
Mae Morris wedi treulio deng mlynedd yn y carchar ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio'i wraig. Ond daw tystiolaeth newydd ynglŷn â'r farwolaeth i'r golwg yn llythyr Ceri, chwaer ei wraig. Beth yn union a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw? Ffilmiau Bryngwyn, 1993. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llid y Ddaear (1989)
Ffilm gan Karl Francis sy'n olrhain hanes cymdeithas lofaol yn ne Cymru drwy lygaid Gwen, brodores o'r ardal sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed. Cinecymru 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gŵyl MAP 2014 a 2015
Mae Gŵyl MAP yn cyfuno dosbarthiadau meistr gyda chyfle i ddangos a thrafod gwaith theatr o bob math. Trefnir yr ŵyl gan Brifysgol De Cymru o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir yn y casgliad yma gyfres o gyfweliadau gyda ymarferwyr theatr a fu'n arwain dosbarthiadau meistr yng Ngŵyl MAP 2014 a 2015. Cynhaliwyd Gŵyl MAP 2014 yn Aberystwyth a Gŵyl MAP 2015 yng Nghaerdydd.
Hedd Wyn (1992)
Barddoniaeth oedd angerdd mawr bywyd Ellis Evans, a'i uchelgais oedd ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddodd yn y man: yn Eisteddfod Birkenhead yn 1917 enillodd brif lawryf ei genedl - yn anffodus ni wyddai ddim byd am y peth. Lladdwyd ef ychydig ynghynt ar ei ddiwrnod cyntaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ypres. Pendefig, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn: Canrif o Gofio
100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hope (2007)
Yr asgellwr rhyngwladol, Shane Williams, a'r actor Richard Harrington yw sêr y ddrama newydd hon gan Karl Francis. Mae Hope, sydd ar ffurf drama ddogfen, yn adrodd stori emosiynol meddyg o Gymru sy'n syrthio mewn cariad â Hope, nyrs o Fadagascar, tra'n gweithio i'r elusen Médecins Sans Frontières yn y Congo. Mae eu perthynas yn arwain at hapusrwydd a thrasiedi. Rygbi yw un o brif themâu Hope, a saethwyd ar leoliad yn Affrica a Chymru. Gydag isdeitlau. Bloom Street, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch
Ar ôl 10 mlynedd o chwilio am destun drama fyddai’n apelio at y Cymry a’r Gwyddelod mae Llwyfan Gogledd Cymru, trwy gyfrwng llwyfanu traddodiadol a thechnoleg arbrofol, yn perfformio addasiad o lyfr dogfenol Sean O’ Mahonyo ‘Frongoch: University of Revolution.’ Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dŵr a Thân (1992)
Gŵr a gwraig o Gymru ar eu gwyliau mewn maes pebyll yn Llydaw, yn cyfarfod a rhannu profiadau a phroblemau teulu o wlad Pwyl, sydd yn westeion i lywodraeth Ffrainc, yn dathlu dymchwel y wal. Gan Emyr Humphreys. Gyda Mei Jones, Mari Rowland Hughes, Tom Richmond, Buddug Povey, Iola Gregory a Dyfan Roberts. Ffilmiau Bryngwyn, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fondue, Rhyw a Deinosors (1991)
Cyfres ddrama sy’n dilyn hynt a helynt chwech o bobl yn eu tridegau sydd yn byw ym mhentref gwledig Llaneden. Cawn gipolwg ar fywydau’r tri chwpwl wrth iddynt ymgodymu â bywyd pentrefol. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fel 'Stafell (1999)
Drama rymus sy'n portreadu dyn sy'n troi at alcohol wrth geisio ymdopi â marwolaeth ei wraig. Owen Garon sy'n chwarae'r prif rôl. Bracan, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Esboniadur Theatr Cymru Gynnar
Cofnodion ar ddramodwyr Cymreig a fu'n weithgar yn ystod yr hanner canrif rhwng 1880 a 1940, pob un â llyfryddiaeth lawn. R. G. Berry D. T. Davies Eic Davies J. Kitchener Davies Albert Evans-Jones (Cynan) Beriah Gwynfe Evans J. O. Francis W. J. Gruffydd Howard de Walden J. Tywi Jones T. Gwynn Jones Thomas Parry D. Matthew Williams