Ychwanegwyd: 26/03/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 971 Cymraeg Yn Unig

Charlotte Greenway ac Alison Rees Edwards, 'Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer y Dyfodol' (2021)

Disgrifiad

Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Addysg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
man lun gwerddon 32

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.