Ychwanegwyd: 14/12/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.1K

Cyflwyniad i Gyhoeddi Mynediad Agored ‘open access’

Disgrifiad

Nod y gweithdy hwn yw datblygu gwell dealltwriaeth o'r hyn y mae cyhoeddi mynediad agored yn ei olygu, dysgu am sut mae'n cael ei weithredu mewn gwahanol meysydd a pham.

Mae'r gweithdy hwn yn cynnwys trafodaeth am ddiffiniadau cystadleuol o fynediad agored a'r mathau o drwyddedau a ddefnyddir yn gyhoeddiadau mynediad agored. Mae'n ystyried buddion ac effeithiau mynediad agored dros ddulliau cyhoeddi traddodiadol, yn enwedig mewn cyd-destun yr iaith Gymraeg, ac yn defnyddio enghreifftiau penodol i ddangos effeithiau mewn gwahanol sectorau ac ar gyfer gwahanol randdeiliaid. Yn olaf, bydd y gweithdy'n ystyried y newid cynyddol tuag at fynediad agored a'r hyn y gallai hynny ei olygu i ddyfodol cyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth o sut mae cyhoeddi mynediad agored yn gweithio, sut mae hawlfraint yn effeithio ar hygyrchedd a sut mae gwahanol drwyddedau agored yn cyfyngu neu'n caniatáu defnydd. Byddant yn datblygu gwell dealltwriaeth o pam y gall cyhoeddi mynediad agored fod yn fwy buddiol na modelau masnachol traddodiadol, mewn rhai achosion, a sut mae mynediad agored yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn cynyddu ymgysylltiad â'r Gymraeg.

Cyflwynir yr adnodd gan Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae wedi hyrwyddo Mynediad Agored o fewn y sefydliad ac yn ehangach yn y sector diwylliant. Mae Jason yn gweithio gyda phrosiectau Wikimedia, gan gynnwys Wikipedia, i rannu casgliadau digidol y Llyfrgell yn agored ac i annog ymgysylltu a chyfranogiad mewn prosiectau torfoli agored. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru mae wedi arwain nifer o brosiectau i ddatblygu cynnwys a data mynediad agored Cymraeg.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Cyflwyniad i Gyhoeddi Mynediad Agored ‘open access’

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.