Ychwanegwyd: 23/01/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 1.1K Dwyieithog

Cynhadledd Wyddonol 2023

Disgrifiad

Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau.

Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Ystafell y Cyngor, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15fed Mehefin 2023.

Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Galwad i gyfrannu
Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth wyddonol (STEM). Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd, neu ymchwilwyr gyrfa gynnar, yn ogystal ag academyddion profiadol.

Bydd y cyflwyniadau yn 20 munud o hyd gyda 10 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa i ddilyn

Yn ogystal, anogir cyfranwyr i gyflwyno erthygl i'w hystyried ar gyfer ei chyhoeddi yng nghyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef Gwerddon (www.gwerddon.cymru). Gallwch weld enghreifftiau o gyflwyniadau’r gorffennol yma: https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2019  https://www.porth.ac.uk/cy/collection/cynhadledd-wyddonol-2021

Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno yn y gynhadledd ddarparu teitl a chrynodeb o’u herthygl (nid mwy na 300 gair) at l.rees@colegcymraeg.ac.uk erbyn 24 Mawrth 2023. Yn ôl ein harfer, byddwn yn recordio’r cyflwyniadau a’u huwchlwytho i’r Porth Adnoddau.

Cystadleuaeth Posteri
Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl.

Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Cemeg, Daearyddiaeth, Ffiseg, Gwyddorau Biolegol, Peirianneg, Meddygaeth, Iechyd a Gofal
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
mân lun cynhadledd wyddonol 2023

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.