Ychwanegwyd: 14/12/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.3K

Dadansoddi data gydag ‘R’ a 'Python'

Disgrifiad

Amcan y gweithdy hwn yw cyflwyno technegau dadansoddi data effeithiol ac ailgynhyrchiadwy mewn dwy iaith rhaglennu ffynhonnell agored boblogaidd, R a Python.

Cyflwynir yr adnodd gan Dr Geraint Palmer, darlithydd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd. Mae ei ymchwil ym maes Ymchwil Gweithrediadol yn bennaf yn ymwneud â modelu gwasanaethau cyhoeddus fel systemau ciwio yn analytig a trwy efelychiadau cyfrifiadurol. Mae’r gwaith hwn yn defnyddio pynciau megis tebygolrwydd, damcaniaeth graffiau, dadansoddi data, a datblygiad meddalwedd.

Cyflwyniad

Mae defnyddio meddalwedd ystadegol arbenigol er mwyn dadansoddi data yn helpu cywirdeb ac effeithlonrwydd eich gwaith. Yn y cwrs hwn byddwn yn edrych ar naill ai R neu Python (eich dewis chi), dwy iaith rhaglennu boblogaidd iawn ar gyfer dadansoddi data a thasgau cysylltiedig. Mae defnyddio côd, ac yn enwedig côd ffynhonnell agored, hefyd yn helpu gyda ailgynhyrchadwyedd - mae mwy o wybodaeth ar y cysyniadau i’w gweld yma: https://sgiliauymchwilcyfrifiadurol.github.io/.

Cynnwys:

  • Cyfres o 10 fideo (5 yn R a 5 yn Python), ar y pynciau canlynol:
  • Lawrlwytho, gosod, a dechrau’r meddalwedd
  • Darllen data a chynhyrchu ystadegau disgrifiadol
  • Plotio
  • Cyfuno ac ail-siapio data
  • Profi rhagdybiaethau
  • Set data enghreifftiol
  • Tasg ymarferol i gyd-fynd â phob fideo

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

gweithio trwy’r gyfres fideos a gweithgareddau - byddwch yn medru dechrau a dadansoddi data gyda naill ai R neu Python. Yn benodol, byddwch yn gwybod sut i ddarllen data gyda’r meddalwedd, cynhyrchu ystadegau disgrifiadol, plotio, cyfuno ac ail-siapio data, a phrofi rhagdybiaethau.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Dadansoddi data gydag ‘R’ a 'Python'

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.