Enillydd Adnodd Cyfrwng Cymraeg 2020 (gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).
Mae'r llyfr cyffrous a chynhwysfawr hwn yn ymdrin ag amrediad eang o themâu a astudir fel rhan o bwnc Daearyddiaeth, gan gynnwys prosesau dynol, ffisegol ac amgylcheddol. Mae'n addas i fyfyrwyr Safon Uwch, ynghyd â'r rheiny sy'n astudio Daearyddiaeth yn y Brifysgol.
"Mewn ymateb i’r argyfwng Covid-19, mae’r Coleg Cymraeg a’r awduron yn falch o gyhoeddi penodau 3 a 8 yn electronig, er mwyn cefnogi myfyrwyr blwyddyn 12 gyda’u hastudiaethau cyfredol o fewn maes llafur Safon Uwch (lefel A) CBAC.”. Gellir prynu’r gwerslyfr cyfan yn eich siop lyfrau leol neu ar-lein.