Ychwanegwyd: 10/06/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.1K Cymraeg Yn Unig

Datblygu Gyrfa: Rhwydweithio Digidol ac Academaidd

Disgrifiad

Amcanion y gweithdy hwn yw:

  • I gyflwyno rhwydweithio fel sgil bwysig ar gyfer datblygu gyrfa, ac i gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar sut i fynd ati i rwydweithio mewn cyd-destun digidol ac academaidd.

Cynnwys:

Yn y gweithdy hwn, byddwn yn edrych ar beth yw rhwydweithio, a sut i fynd ati i ddefnyddio dulliau rhwydweithio i’ch helpu i gynllunio, ymchwilio a datblygu’ch gyrfa. Bydd y gweithdy yn egluro sut i ddefnyddio amryw o wahanol wefannau cymdeithasol mewn cyd-destun academaidd a phroffesiynol, gan ganolbwyntio yn benodol ar ddefnyddio LinkedIn, a gwneud y mwyaf o’r potensial mae’r safle yn ei gynnig i fyfyrwyr a graddedigion.

 

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

  • Teimlo’n hyderus am ddatblygu a defnyddio rhwydweithiau academaidd a phroffesiynol
  • Deall potensial gwahanol wefannau cymdeithasol ar gyfer rhwydweithio gyrfaol
  • Creu proffil LinkedIn effeithiol a deall sut i wneud y mwyaf o wahanol nodweddion y safle.

 

Cyflwynydd:  Mari Gwenllian Price

Mae Mari yn gweithio i’r Adran Gyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor ers bron i ddeg mlynedd ac yn cynnig cyngor gyrfaol a sesiynau o fewn y cwricwlwm fel rhan o’i rôl. Mae hi hefyd yn gweithio ar gynlluniau lleoliadau gwaith yn y Brifysgol, ac yn un o arweinwyr y Wobr Gyflogadwyedd. Mae Mari wedi cwblhau MA mewn Addysg a Chyngor Gyrfaol o fewn addysg uwch drwy Brifysgol Warwick, ac wedi edrych mewn i ddiddordebau gyrfaol myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg fel maes ymchwil ei thraethawd hir.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Datblygu Gyrfa: Rhwydweithio Digidol ac Academaidd

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.