Ychwanegwyd: 17/07/2023 Dyddiad cyhoeddi: 2023 1.5K Dwyieithog

Fferm Ddiogel

Disgrifiad

*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*

Y profiad VR gorau i unrhyw un sydd â diddordeb mewn diogelwch fferm!

Mae Fferm Ddiogel wedi’i dylunio i helpu dysgwyr i nodi a deall peryglon posibl ar y fferm, yn ogystal â dysgu sut i’w hosgoi mewn ffyrdd diogel ac ymarferol. Archwiliwch iard y fferm, lle byddwch yn dysgu am y peryglon sy'n gysylltiedig â lleoliadau amaethyddol ac offer a geir yn gyffredin ar y fferm. Ymwelwch â'n canolfan hyfforddi ATV, lle byddwch yn dysgu am beryglon reidio ATVs. Yn olaf, gallwch gael profiad o weithio gydag anifeiliaid mewn amgylchedd diogel a rheoledig, gan ddysgu am y risgiau sy'n gysylltiedig â thrin da byw.

Mae ein ap yn cynnwys pum avatar cyfeillgar, Ceri, Bevan, Jack, Yana, a Geth, a fydd yn eich arwain trwy bob senario, gan roi awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar hyd y ffordd. Byddant yn eich helpu i nodi peryglon, deall y risgiau posibl y maent yn eu hachosi, a sut i osgoi'r risgiau hynny.

Perffaith ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm mewn amgylchedd diogel a rheoledig. 

Mae sain yr adnodd hwn yn Gymraeg gydag is-deitlau Saesneg a Chymraeg.

*Mae angen penwisg 'Oculus Quest 2' i ddefnyddio fersiwn VR yr adnodd hwn. Mae fersiwn AR ar gael hefyd ac mae modd lawrlwytho a defnyddio'r fersiwn hon ar ffôn neu dabled.*

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Ôl-16 a Galwedigaethol
Perthyn i
Amaethyddiaeth
Trwydded
CC BY-NC-SA 4.0
Adnodd Coleg Cymraeg Ap
mân-lun fferm ddiogel, adnodd VR ac AR

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.