Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: - 721

Gwaed Gwirion (2014)

Disgrifiad

Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014.

Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Hanes, Cymraeg
Trwydded
ERA
Archif S4C
Password Protected
mân-lun S4C

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.