Ychwanegwyd: 15/12/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 1.2K

MS PowerPoint ar gyfer Ymchwilwyr

Disgrifiad

Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i unrhyw un sydd am gyflwyno gwybodaeth mewn ffyrdd amgen, a rhyngweithiol, boed fel rhan o gyflwyniad ymchwil neu wrth ddarlithio.

Amcanion y gweithdy

  • Datblygu dealltwriaeth uwch o feddalwedd adnabyddus
  • Gwybod bod mabwysiadu technegau syml yn gallu arwain at gynnyrch o safon uwch, sy’n wahanol i’r arfer
  • Llwyddo i gael y meddalwedd  i weithio i chi, ac nid eich ‘caethiwo’

Cynnwys

  1. Dylunio templedi unigryw i siwtio eich cyflwyniadau chi
  2. Cyflwyno yn hydrus ac arloesol
  3. Adnabod offer newydd tu allan i’r rhai cyffredin
  4. Defnyddio PowerPoint yn effeithiol ar gyfer aml-bwrpas

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

  • Creu cyflwyniadau rhyngweithiol sy’n edrych ac yn gweithio’n wahanol i’r cyffredin gydag hyder
  • Deall technegau estynedig ar gyfer creu projectau, traethodau hir ac adroddiadau effeithiol
  • Ystyried clymu elfennau pob project ar ei gilydd mewn portffolio rhyngweithiol, a gwybod sut i wneud hyn.

Cyflwynydd: Dyddgu Hywel

Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf.

Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, cyn cael ei phenodi’n athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

Mae wrth ei bodd yn gweithio fel uwch ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd erbyn hyn, ac yno ers dros saith mlynedd bellach, gyda’i arbenigedd mewn defnydd effeithiol o ddulliau addysgu, y defnydd o dechnoleg, ymgysylltiad a iechyd a lles myfyrwyr.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
MS PowerPoint ar gyfer Ymchwilwyr

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.