Rhaglen ddogfen yn dilyn Angharad Tomos wrth iddi weithio gyda grwpiau o blant ysgolion cynradd yn llunio straeon yn cynnwys y plant fel cymeriadau. Bydd Angharad yn trafod ei magwraeth heb deledu ac yn esbonio sut y gwnaeth ei rhieni creadigol feithrin ei hoffder o arlunio a chreu cymeriadau a straeon. Ar ôl gorffen ymarfer dysgu, cafodd gyfle i weithio gyda Chwmni Theatr Mewn Addysg: Cwmni'r Frân Wen, ar ddrama i blant, a chawn weld sut yr oedd cael gweithio gydag awdur yn brofiad difyr i'r theatr a'r actorion. HTV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif – Geraint Bowen (gol.)
Y drydedd cyfrol a'r olaf yn y casgliad pwysig ar ryddiaith Gymraeg wedi ei olygu gan Geraint Bowen. Yma ceir cyfres o benodau gan brif arbenigwyr eu dydd yn trafod agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys gramadeg John Morris-Jones, trafodaethau ar unigolion pwysig y cyfnod a ffurfiau newydd megis y stori fer a'r ysgrif. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Traddodiad Rhyddiaith – Geraint Bowen (gol.)
Cyfres o benodau yn pwyso a mesur cyfraniad gwahanol lenorion ac ysgolion o lenorion o gyfnod rhwng y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r traddodiad llenyddol Cymraeg a'u dylanwad hyd heddiw.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn (1992)
Barddoniaeth oedd angerdd mawr bywyd Ellis Evans, a'i uchelgais oedd ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddodd yn y man: yn Eisteddfod Birkenhead yn 1917 enillodd brif lawryf ei genedl - yn anffodus ni wyddai ddim byd am y peth. Lladdwyd ef ychydig ynghynt ar ei ddiwrnod cyntaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ypres. Pendefig, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mapiwr (1995)
Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Rhwyg (1988)
Saith deg o flynyddoedd yn ôl daeth y Rhyfel Mawr i ben [Tachwedd 1988]. Ar ddiwrnod y dwys gofio led-led Ewrop, mae'n addas ail-ystyried effaith y brwydro ar ein gwlad ein hunain. Dangosir bod canlyniadau rhyfel 1914-1918 gyda ni o hyd, a bod 'y rhwyg o golli'r hogiau' yn dal i glwyfo ein cymdeithas hyd heddiw. John Davies sy'n cyflwyno'r rhaglen ac yn ystyried y newidiad mawr ddaeth i'r golwg yn sgil y Rhyfel Mawr. Mae Davies o'r farn fod chwyldro wedi digwydd o sawl cyfeiriad: chwyldro cymdeithasol, rhywiol a economaidd. Mae'n cyfeirio at y Rhwyg nid yn unig yn nhermau colli bywyd ond, yn ogystal, y Rhwyg rhwng yr hen Gymru a'r Gymru newydd... Mae'r rhaglen yn cynnwys llenyddiaeth a chyfraniadau gan Lady Ceri Olwen Evans (merch David Lloyd George) ac Ithal Davies. Teliesyn, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyll (Cyfres 1)
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pymtheg Olaf (2014)
Bydd cyn-flaenasgellwr Cymru a Llanelli, Dafydd Jones, yn mynd ar drywydd y Pymtheg Olaf mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn hanes tîm rygbi Cymru 1914. Roedd tîm rygbi rhyngwladol Cymru yn 1914 yn dîm hynod lwyddiannus ac yn cynnwys llawer o'r chwaraewyr a oedd wedi ennill tair Camp Lawn rhwng 1908 a 1911. Caent eu hadnabod fel carfan rymus tu hwnt yn gorfforol, llysenw eu blaenwyr oedd 'the terrible eight'. Roedd hyn mewn cyfnod ymhell cyn i'r gêm fynd yn broffesiynol, ac roedd sawl crefft gwaith yn y tîm, gyda'r gweinidog Jenkin Alban Davies o Aberaeron yn gapten ar y garfan. Ond yn ystod y Rhyfel Mawr a ddechreuodd yn 1914, ymrestrodd naw ohonynt yn y fyddin, chwe wythnos wedi eu gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwerddon. Tinopolis, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Graith
Drama gyfnod wedi'i seilio ar y nofel gan Elena Puw Morgan (1938). Hanes taith bywyd merch o’r enw Dori. Ar ei hwyneb hi y mae’r graith yn nheitl y ddrama: y symbol o greulondeb ei mam. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pianydd Llŷr Williams (2006)
Portread o'r pianydd ifanc disglair Llŷr Williams, a ddisgrifiwyd yn mhapur The Times fel 'un a fydd bron yn sicr ryw ddydd yn un o'r mawrion.' Bu'r Cymro 29 oed o Bentrebychan, Sir y Fflint, yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Wrth astudio, enillodd yr holl wobrau posibl a graddio yn 2000 gyda Dip RAM, cymhwyster ucha'r Academi. Yn 2004 dewiswyd LlÅ·r fel Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn 2005 fe enillodd wobr gyntaf MIDEM Classique mewn partneriaeth gydag IAMA ar gyfer 'Yr Artist Ifanc Eithriadol'. Mae ei berfformiad o weithiau Mozart yn hudol. Opus, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
