Twm Morys a Llinos Ann sy'n cyflwyno. Mae'r rhaglen yn cynnwys yr eitemau canlynol: agoriad arddangosfa'r artist Keith Andrew yn Amgueddfa'r Gogledd, Llanberis; Steve Eaves yn canu 'Tir Neb'; Bardd yr Wythnos; Geraint Tilsley yn adrodd 'Muriau'; eitem ar y cerflunydd a'r llenor, Jonah Jones, a Bob Delyn a'r Ebillion yn perfformio 'Pethe'. HTV Cymru, 1990.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
