Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi'r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy'n amrywio drwy'r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o 'ddiffeithwch gwyrdd' yr ucheldir i'r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae'r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a'r tywydd. Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.
Cerys Jones et al., 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru' (2010)
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Yr Athro Syr Deian Hopkin yn siarad â myfyrwyr ar 20 Mawrth 2014 ynglŷn â sut i goffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ystod canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Cynan Llwyd, 'Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder': Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)' (2017)'
Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a'r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a'i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a'r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i'w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o'r grymoedd pwysicaf ym mywydau'r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Cynan Llwyd, '“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.
D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn'' (2017)'
Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai'n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o'r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu'r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd 'y Williams iawn'. Bu'n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli'r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis. D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, Awst 2017, 51-65.
Darlith Flynyddol 2012: Canrif Gwynfor – Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2012: Canrif Gwynfor - Melancoli, Moderniaeth a Bro Gymraeg, gan Rhys Evans Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Darlith Flynyddol 2015: Y Wladfa 1865–2015 – Dathlu Beth?
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2015: Y Wladfa 1865-2015 - Dathlu Beth? gan Elvey MacDonald. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau ar ddydd Mawrth 5 Awst 2015.
Darlith Flynyddol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2017: 'Tros bedair gwaith o gwmpas y byd': Teithiau a Gweithiau William Williams, Pantycelyn, gan Eryn White, Prifysgol Aberystwyth. Traddodwyd y ddarlith yn Eisteddfod Genedlaethol Môn ar ddydd Mawrth 8 Awst 2017.
Darlith Flynyddol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2018: Cymru, Ymfudo a'r Cymry Tramor Rhwng y Rhyfeloedd Byd, gan Bill Jones, Prifysgol Caerdydd.
Darlith Flynyddol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir
Darlith Flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019: Teulu Wynniaid Gwedir, gan John Gwynfor Jones.
Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr E...
Tymhestlog fu hanes perthynas yr Eglwys Gatholig Rufeinig a'r Iddewon, ac yn yr erthygl hon archwilir y modd yr effeithiodd deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas honno. Gan gymryd detholiad o ddeddfau, ystyrir y modd y cawsant effaith ar safle cymdeithasol yr Iddew mewn byd a oedd yn troi'n fwyfwy Cristnogol. Eir ymlaen i drafod y modd yr ailgyflwynwyd ambell ddeddf wrth-Iddewig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ogystal ag yn ystod y digwyddiad erchyll a oedd yn dyngedfennol i'r Iddew a'r Cristion, yr Holocost. Daw'r erthygl i ben gan bwyso a mesur gwir arwyddocâd y deddfau imperialaidd cynnar a chan gwestiynu perthynas yr Iddew â'r Cristion yn yr unfed ganrif ar hugain. Gareth Evans-Jones, 'Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a'r Iddewon', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 58-84.
Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?' (2009)
Mae'r papur hwn yn cynnig dadansoddiad newydd o nifer o agweddau ar Y Wladfa ym Mhatagonia, drwy gyflwyno'r syniad o fod 'ar y trothwy' i'r drafodaeth, fel y'i dehonglwyd gan ddamcaniaeth ôl-wladychol. Ar ôl rhoi rhywfaint o gefndir hanesyddol y wladfa, sy'n rhoi ystyriaeth lawn i safbwynt yr Archentwyr, rydym yn mynd ati i archwilio nodwedd ddeuoliaeth amlwg yr arloeswyr o Gymru yn Chubut yn eu safle yn wladychwyr i bob pwrpas ac wedi'u gwladychu. Mae'r ymwybyddiaeth ddwbl y gellir ei holrhain yn ôl i ddechreuad y Fenter Fawr yn cael ei hastudio mewn cyd-destun cyffredinol a chan gyfeirio'n benodol at y berthynas gymhleth a ddatblygodd rhwng y mewnfudwyr o Gymru a phobl wreiddiol Patagonia. Geraldine Lublin, 'Y Wladfa: Gwladychu heb drefedigaethu?', Gwerddon, 4, Gorffennaf 2009, 8-23.