Cyflwyniad i syniadau y cymdeithasegydd Emile Durkheim yn ei eiriau ei hun ac wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Credai Durkheim y gellid creu gwyddor i astudio cymdeithas ac ef oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Yn ôl syniadau Durkheim rheolid unigolyn a'i weithredoedd gan ei gymdeithas. Astudiodd swyddogaeth crefydd o fewn cymdeithas yn ogystal. Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod). <ul> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.</li> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.</li> <li>I ddarllen yr e-lyfr ar Kindle, lawrlwythwch y ffeil Mobi.</li> </ul> Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau <a href=https://llyfrgell.colegcymraeg.adam.dev/view2.aspx?id=2088~4s~tbt8zEqn'>yma</a>. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Be Ddywedodd Durkheim – Ellis Roberts a Paul Birt
Botwm y Byd
Cyfres o adnoddau i addysgu’r Cyfryngau Newydd, Ieithoedd Modern a Gwleidyddiaeth cyfrwng Cymraeg. Mae tair prif adran: Byd Bach, Pedwar Ban ac Adnoddau Addysgu.
Mae Byd Bach yn gyfres o ddarllediadau, gyda'r cyfranwyr yn crynhoi mewn cwta 7-10 munud brif straeon y wasg mewn gwlad arbennig, gan roi sylw penodol i straeon rhyngwladol.
Mae Pedwar Ban hefyd yn cynnwys darllediadau: gwahoddwyd y cyfranwyr i ddarllen drwy bapurau gwahanol wledydd y byd, gan ddod at ei gilydd i drafod rhai o’r prif straeon.
Ceir hefyd gyfres o ymarferion rhyngweithiol, taflenni gwaith traddodiadol a rhestrau geirfa, ynghyd â fideos gyrfa.