Ychwanegwyd: 21/04/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2018 1.2K Cymraeg Yn Unig

E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth

Disgrifiad

Adnoddau digidol gan Elin Royles a Huw Lewis sy'n cyflwyno syniadau, cysyniadau ac egwyddorion creiddiol Gwleidyddiaeth.

Cynhyrchwyd yr adnoddau hyn er mwyn cynorthwyo disgyblion ac athrawon sy’n astudio cwrs Safon Uwch ac Uwch Llywodraeth a Gwleidyddiaeth CBAC ac i ddarparu gwybodaeth gychwynnol ar gyfer myfyrwyr is-raddedig.

Mae E-lawlyfr 1: Syniadau Hanfodol i Ddeall Systemau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 2 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Byw a Chyfranogi mewn Democratiaeth.’

Mae E-lawlyfr 2: Cyflwyniad i Syniadau Gwleidyddol yn cynnwys wyth adnodd astudio unigol a phedwar fideo sy’n cyd-fynd ag agweddau ar fanyleb Uned 3 y cwrs Llywodraeth a Gwleidyddiaeth, sef ‘Cysyniadau a Damcaniaethau Gwleidyddol.’

Cynhyrchwyd y deunydd hwn gan Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Ariannwyd y prosiect o Gronfa Datblygiadau Strategol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Gwleidyddiaeth
Trwydded
CC BY-SA
Adnodd Coleg Cymraeg E-lyfr
E-lawlyfrau Syniadau Gwleidyddiaeth

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.