Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â'r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o'r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau'r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai'n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio 'laser tonfedd ddeuol' ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na 'chymysgu' y golau o ddau laser gwahanol gyda'i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol. Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”', Gwerddon, 22, Hydref 2016, 75–93.
Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, 'Cynllunio "Laser Tonfedd Ddeuol"' (2016)
RAS200 yng Nghymru
Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd)
Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach.
Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol.
I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.
Problemau a Datrysiadau yn y Gwyddorau Ffisegol
Mae'r adnodd hwn yn cynnwys chwe pecyn o adnoddau yn ymwneud ag egwyddorion craidd sylfaenol Mathemateg a Ffiseg.
Maent yn cynnwys problemau a datrysiadau, gyda’r amcan o gynyddu'r derminoleg Gymraeg yn y pynciau a chodi hyder myfyrwyr i ymdrin â'r pynciau yn y Gymraeg. Ceir set o esiamplau ac ymarferion theoretig ac ymarferol ar gyfer pob un o'r chwe phwnc dan sylw.