Ychwanegwyd: 03/06/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2018 1.1K Cymraeg Yn Unig

RAS200 yng Nghymru

Disgrifiad

Adnoddau prosiect RAS200 (cyfathrebu gwyddoniaeth drwy gyfrwng celfyddyd)

Mae RAS200 Sky and Earth yn gynllun uchelgeisiol i ddathlu dauganmlwyddiant y Gymdeithas Seryddol Frenhinol. Eu nod yw ymgorffori a darparu gwaddol o seryddiaeth a geoffiseg yn y gymdeithas ehangach.

Amcan RAS200 yng Nghymru yw codi ymwybyddiaeth o seryddiaeth a geoffiseg drwy weithgaredd celfyddydol Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Darperir yn y casgliad hwn adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o'r gweithgaredd. Mae yma gyflwyniadau o'r seryddiaeth a geoffiseg drwy ddiwylliant, sy'n rhoi cip olwg ar y wyddoniaeth drwy weithiau creadigol.

I ddysgu mwy am y prosiect, darllenwch gyflwyniad yr Athro Eleri Pryse i RAS200 yng Nghymru.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Ffiseg
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Casgliad
mân lun RAS 200

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.