Added on: 03/06/2020 Publish Date: 2014 567

Adnoddau mentora a darpariaeth ddwyieithog

Description

Mae mentoriaid yn chwarae rhan unigryw yn cefnogi myfyrwyr ac yn eu cynorthwyo i ddysgu yn yr amgylchedd clinigol. Prif bwrpas mentora yw cynorthwyo'r myfyriwr i ddysgu a datblygu a'u cynorthwyo i ddod yn rhan o'r lleoliad gofal iechyd. Ers pan gyflwynwyd Deddf yr Iaith Gymraeg (1993) ac yn fwy diweddar Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae dwyieithrwydd wedi dod yn realiti cynyddol mewn lleoliadau clinigol ledled Cymru, wrth i sefydliadau gofal iechyd ymateb i'r galw cynyddol am wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Yng ngoleuni gofynion o'r fath, mae mwy o alw am bobl broffesiynol ym maes gofal iechyd gyda'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau i ymarfer yn ddwyieithog. Mae hyn wedi ysgogi mentrau newydd cyffrous er mwyn datblygu ac ehangu darpariaeth ddwyieithog o fewn rhaglenni addysg gofal iechyd a hybu sensitifrwydd iaith wrth ymarfer.Datblygwyd y deunyddiau yma gyda'r nôd i gefnogi mentora mewn lleoliad dwyieithog. Maent yn cynnwys:❖ Cynnig arweiniad ac adnoddau i fentoriaid i gefnogi myfyrwyr yn y lleoliad dwyieithog.❖ Amlinellu'r angen i ddatblygu ymarfer mewn gofal iechyd sy'n ieithyddol addas.❖ Canfod ffyrdd o ddatblygu sensitifrwydd ieithyddol mewn ymarfer.❖ Edrych ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer ymarfer.Yn ogystal, mae

Collection Level
Higher Education
Collection belongs to
Nursing
License
All Rights Reserved
Coleg Cymraeg Resource Collection
logo coleg cymraeg cenedlaethol

Subscribe

Please fill in your details below to receive email notifications about new resources.