Hanner can mlynedd ar ôl darlith radio Tynged yr Iaith, lle proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd yr iaith Gymraeg fel 'iaith fyw' erbyn dechrau'r unfed ganrif ar hugain, Adam Price sy'n edrych o'r newydd ar gyflwr yr iaith heddiw. POP1, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mamwlad (cyfres 1) (2012)
Cyfres yn olrhain hanes merched arloesol Cymru dros y blynyddoedd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byd o Liw: Y Rhyfel Mawr (2008)
Yn y rhaglen hon a fydd yn cofio'r Rhyfel Mawr 90 mlynedd ar ôl iddi orffen, mae Osi yn edrych ar gynfas eang o fudiadau celf y cyfnod a ddarluniodd ryfel mewn ffordd gwbl newydd a chwyldroadol. Cyn y Rhyfel Mawr, roedd arlunwyr yn dueddol o ramantu rhyfeloedd a milwyr trwy ddarluniau a oedd yn aml iawn wedi'u comisiynu.Ond mae arlunwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn dangos dioddefaint a chreulondeb rhyfel mewn ffyrdd uniongyrchol a blaengar. Fe ddylanwadodd y rhyfel yn drwm ar gynnwys lluniau. Mae'r rhaglen yn dangos sut y gwnaeth yr arlunwyr yma ddarlunio rhyfel fel rhywbeth creulon ac annynol er gwaethaf pwysau o lywodraethau gwledydd fel Prydain, Ffrainc a'r Almaen i arlunwyr bortreadu rhyfel fel rhywbeth nobl, aruchel i hybu propaganda rhyfel. Gan ffilmio ar feysydd y gad yn Ffrainc a Fflandrys, cawn weld sut y gwnaeth profiadau tywyll rhyfel ddylanwadu ar arlunwyr Ewropeaidd fel Otto Dix, Picasso, Stanley Spencer, David Jones a Frank Brangwyn. Zip TV, 2008. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mametz (1987)
Brwydr Coedwig Mametz ar y Somme oedd un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dros gyfnod o bum niwrnod yn Gorffennaf 1916, collodd Byddin Gymreig Lloyd George 4,000 o ddynion, naill ai wedi'u lladd neu eu hanafu wedi ymosodiadau ar y goedwig. Yn ystod y mis hwn [Gorff 1987] mae rhai o'r cyn-filwyr sydd dal yn fyw yn dychwelyd i Goedwig Mametz am y tro cyntaf mewn 71 o flynyddoedd i ddadorchuddio cofeb i'r sawl a lladdwyd yng Nghoedwig Mametz. Daw elfennau o'r archif gan yr Amguedfa Genedlaethol, Amgueddfa Filwrol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. HTV Cymru, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Byd ar Bedwar
Mae'r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta'r sianel yn 1982, ac mae'n un o gonglfeini'r gwasanaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o'r safon uchaf. HTV Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Malcolm Allen: Cyfle Arall (2014)
Rhaglen bwerus am y cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Malcolm Allen o Ddeiniolen, wrth iddo siarad yn agored am y tro cyntaf am dreialon ei fywyd a'i yrfa liwgar. Mae Malcolm a'r teulu yn siarad yn ffraeth ac yn onest am y cyfnod tywyll hwnnw lle bu bron iddo golli popeth. Ar ôl brwydr hir, mae Malcolm wedi dod drwyddi ac wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei fywyd. Ymysg y cyfranwyr mae Graham Taylor, Mick McCarthy, Kevin Keegan a Syr David Brailsford. Rondo, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tua'r Tywyllwch: Philip Jones Griffiths (1999)
Ffilm ddogfen sy'n dilyn y ffotograffydd Philip Jones Griffiths, y cyn fferyllydd o dref Rhuddlan a fagodd enw rhyngwladol i'w hun fel cofnodydd erchyllterau Rhyfel Fietnam. Mae'r rhaglen yn ei dilyn o Vancouver i Fietnam, ac yn ôl i ailymweld â rhai o'r manau a welodd am y tro cyntaf adeg Rhyfel Fietnam yn y 1970au. Ceir cyfle i ddeall y weledigaeth unigryw o ryfel ac anghyfiawnderau'r byd a greodd rai luniau mwyaf grymus yr 20fed ganrif. Fulmar West, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mae'r Wlad Hon yn Eiddo i Ti a Mi (1994)
Ar Ebrill 27 (1994) cynhelir etholiad yn Ne Affrica pan fydd yr hawl am y tro cyntaf erioed gan bawb o drigolion y wlad, y duon yn ogystal a'r gwynion, i bleidleisio. Emyr Daniel sy'n edrych ar hanes y gwahanol bobloedd sydd yn byw yn y wlad hynod o brydferth hon ac, er gwaetha'r trais a'r tlodi, yn gweld arwyddion o obaith. Merlin Television, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tros y Tresi – Huw T. Edwards
Y gyntaf o ddwy gyfrol hunangofiant Huw T. Edwards, ffigwr blaenllaw yn hanes undebaeth a gwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hon ceir hanes gwreiddiau a magwraeth yr awdur yn ardal Penmaen-mawr, ei swyddi cynnar a'i gyfnod yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Clywn am y dylanwadau fu arno, ac am ddatblygiad ei yrfa fel undebwr a'i ymwneud â'r Blaid Lafur a bywyd cyhoeddus Cymru. Gweler yr ail gyfrol, Troi'r Drol,
Cymru Fach (2008)
Chwant a chariad, nwyd a naid, serch a siom, dialedd a diogi...yng Nghymru Fach. Addasiad o ddrama lwyfan yw Cymru Fach a berfformiwyd gan Sgript Cymru. Mae'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y gymdeithas Gymreig. Mae'r ddrama wedi ei rhannu'n ddeg golygfa gyda phob un yn canolbwyntio ar ddau gymeriad (bachgen a merch) a'u perthynas â'i gilydd. Yn cynnwys iaith gref a noethni. Ffilmiau Boom Films, 2008. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tro Breizh Lyn Ebenezer (1997)
Lyn Ebeneser sy'n dilyn Tro Breizh, pererindod hynafol o amgylch Llydaw. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Fel 'Stafell (1999)
Drama rymus sy'n portreadu dyn sy'n troi at alcohol wrth geisio ymdopi â marwolaeth ei wraig. Owen Garon sy'n chwarae'r prif rôl. Bracan, 1999. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
