Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Be Ddywedodd Gerallt Gymro am ei Gyfoeswyr – Huw Pryce a Glenda Carr
Be Ddywedodd Marx I – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau'r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Marx II – W. J. Rees
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Be Ddywedodd Meyerhold – W. Gareth Jones a Mona Morris
Y mae Fsefolod Meyerhold yn ffigwr canolog yn hanes datblygiad theatr yn yr ugeinfed ganrif. Datblygodd theatr gorfforol a gwerinol oedd yn chwyldroi confensiynau. Yn y gyfrol hon ceir detholiad o lyfr Meyerhold, Am y Theatr, wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.
Be Ddywedodd Weber – Ellis Roberts a Robat Powel
Detholiad o waith Max Weber yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Weber oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern a llywiodd ei ddull gweithio newydd 'Verstehen', sef dull deongliadol neu gyfranogol o astudio ffenomena gymdeithasol, y maes. Rhoddodd Weber bwyslais ar ddeall yr ystyr a phwrpas mae unigolyn yn ei roi i'w weithredoedd ei hun.
Beirdd Cymru: Y Stori (2013)
O Drefaldwyn i Fwdapest, mae'r bardd Twm Morys yn olrhain hanes cerdd y mae pob plentyn Hwngaraidd yn medru ei hadrodd ar gof; cerdd sy'n symbolaeth gref o ryddid i drigolion Hwngari - ond cerdd sydd â chysylltiad Cymreig. Twm Morys ei hun sydd wedi trosi'r gerdd i'r Gymraeg ac mae Karl Jenkins wedi gosod y gerdd i gerddoriaeth. Rondo, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Bioleg y gell
Cyfres o saith adnodd ysgrifenedig ar Fioleg y Gell gan Lian Evans, Catrin Jones, Iolo ap Gwynn a Deri Tomos. Bioleg y gell: Diffiniadau Cludiant y gell Cylchred y gell Esblygiad y gell Matrics y gell Pilen y gell Sytosgerbwd
Blodeugerdd Barddas o Ganu Caeth y G18 – A. Cynfael Lake (gol.)
Blodeugerdd yng nghyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn casglu ynghyd am y tro cyntaf weithiau enwogion fel Lewis Morris, Ieuan Fardd a Goronwy Owen. Nid yw llawer o'r cerddi sydd yn y casgliad wedi gweld golau dydd er pan gyhoeddwyd Diddanwch Teuluaidd yn 1763 gan Hugh Jones o Langwm.
Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y G18 – E. G. Millward (gol.)
Blodeugerdd o gerddi rhydd o'r ddeunawfed ganrif wedi eu cyflwyno mewn rhagymadrodd, eu dethol a'u golygu gan E. G. Millward. Ceir hefyd ymdriniaeth ar ddechrau'r gyfrol â'r tonau Cymreig gan Phillis Kinney. Mae'r cerddi yn y gyfrol hon, sy'n rhan o gyfres Cerddi'r Canrifoedd, Barddas, yn ddarlun o ganrif amrywiol a welodd greu emynau Pantycelyn yn ogystal â phenillion megis: 'Haws yw codi'r môr â llwy, A'i roi oll mewn plisgyn wy, Nag yw troi fy meddwl i, Anwylyd fach, oddi wrthyt ti.'
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Branwen (1994)
Mae dau genedlaetholwr yn priodi - Branwen o Gymru a Kevin o Belfast - ond mae brawd Branwen, Mathonwy, yn filwr yn y fyddin Brydeinig. Mae'r gwrthdaro rhwng teyrngarwch gwleidyddol a theuluol yn tanio Branwen. Y Mabinogi yn dod i'r presennol ac yn bygwth y genhedlaeth newydd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.