Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 24 Mawrth 2021.
- 24 Mawrth 2021: Siwan (Saunders Lewis), Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor (Bl.12)
- 14 Ebrill 2021: Gwerthfawrogi Llenyddiaeth, Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13 + Bl.12)
- 21 Ebrill 2021: Y Gŵr Sydd ar y Gorwel (Gerallt Lloyd Owen), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
- 28 Ebrill 2021: Gwaith Argoed Llwyfain (Taliesin), Dr David Callander, Prifysgol Caerdydd (Bl.13)
- 5 Mai 2021: Yma y mae fy lle (Gwyn Thomas), Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.12)
- 12 Mai 2021: Branwen - 'Efnisien a Bendigeidfran', Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.13)
- 19 Mai 2021: Moelni (T. H. Parry Williams), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth (Bl.12)
- 26 Mai 2021: Y Tŵr (Gwenlyn Parry), Dr Hannah Sams, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
Bydd y ddolen ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon atoch ar e-bost ar y diwrnod. Croeso i ddisgyblion, myfyrwyr, athrawon ac athrawon dan hyfforddiant.
Cofiwch ddilyn cyfrif Twitter @CymraegCCC a chyfrif Instagram @instagymraeg am fwy o wybodaeth a newyddion am y Gymraeg fel Pwnc.
I gofrestru, cliciwch ar y ddolen ffurflen gofrestru isod:
Mae'r gweminarau adolygu byw hyn yn cael eu trefnu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 a 13 sy'n astudio Cymraeg UG/Safon Uwch. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal gan ddarlithwyr o adrannau Cymraeg prifysgolion Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, gyda'r bwriad o gyfoethogi eich dealltwriaeth o rai o'r testunau llenyddiaeth yr ydych yn eu hastudio yn y dosbarth.
Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn Gymraeg drwy Zoom rhwng 4.30-5.15pm ar brynhawniau Mercher, gyda'r sesiwn gyntaf ar nos Fercher 24 Mawrth 2021.
24 Mawrth 2021: Siwan (Saunders Lewis), Dr Manon Wyn Williams, Prifysgol Bangor (Bl.12)
14 Ebrill 2021: Gwerthfawrogi Llenyddiaeth, Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth (Bl.13 + Bl.12)
21 Ebrill 2021: Y Gŵr Sydd ar y Gorwel (Gerallt Lloyd Owen), Yr Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe (Bl.12)
28 Ebrill 2021: Gwaith Argoed Llwyfain (Taliesin), Dr David Callander, Prifysgol Caerdydd (Bl.13)
5 Mai 2021: Yma y mae fy lle (Gwyn Thomas), Dr Dylan Foster Evans, Prifysgol Caerdydd (Bl.12)
12 Mai 2021: Branwen - 'Efnisien a Bendigeidfran', Yr Athro Peredur Lynch, Prifysgol Bangor (Bl.13)
19 Mai 2021: Moelni (T. H. Parry Williams), Yr Athro Mererid Hopwood, Prifysgol Aberystwyth (Bl.12)
26 Mai 2021: Y Tŵr (Gwenlyn Parry), Dr Hannah Sams, Prifysgol Abertawe (Bl.12)