Ychwanegwyd: 08/06/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 1.6K Dwyieithog

Gwefan myf.cymru

Disgrifiad

Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi eu creu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. 

Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae myf.cymru wedi gweithio mewn partneriaeth gyda'r rhaglen MOIMR i gyfieithu eu ap i'r Gymraeg. Yn llawn adnoddau defnyddiol ac ymarferol i'ch cefnogi ar eich adferiad, a bydd o gymorth i unrhyw un lywio heriau bywyd o ddydd i ddydd.  Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch, Addysg Oedolion
Perthyn i
Trawsddisgyblaethol, Iechyd a Gofal
Trwydded
Parth Cyhoeddus
Gwefan
mân lun myf.cymru

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.