Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd.
Ei nod yw symbylu a chynnal trafodaeth academaidd, a chreu cronfa o waith ysgolheigaidd at ddefnydd myfyrwyr ymchwil ac academyddion cyfrwng Cymraeg.
Cyllidir a chyhoeddir Gwerddon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
A oes gennych ddiddordeb cyfrannu erthygl i Gwerddon?
Cyhoeddir Gwerddon o leiaf ddwywaith y flwyddyn a chroesawir erthyglau gan unrhyw ymchwilydd sy’n creu gwaith o safon ryngwladol.
Gwneir penderfyniad golygyddol p’un ai derbynnir erthygl i'w chyhoeddi ai peidio yn dilyn proses arfarnu annibynnol. Disgwylir i erthyglau fod rhwng 5,000 ac 8,000 o eiriau ond ystyrir pob erthygl yn unigol.
Gofynnir i gyfranwyr sicrhau bod eu herthygl yn cydymffurfio â'r canllawiau golygyddol a’r canllaw iaith ar y dudalen ganlynol cyn cyflwyno: gwerddon.cymru/cyfrannu-erthygl/
Dylid anfon erthyglau ac ymholiadau at gwybodaeth@gwerddon.cymru.
Pam cyhoeddi yn Gwerddon?
1. Mae modd cyhoeddi ar unrhyw bwnc academaidd.
Mae Gwerddon yn cyhoeddi erthyglau academaidd ar draws ystod eang o bynciau yn y Celfyddydau, y Dyniaethau, a’r Gwyddorau.
2. Barn arbenigol ar eich gwaith a chefnogaeth termau ac iaith.
Bydd dau arbenigwr yn rhoi barn ysgolheigaidd ar safon eich gwaith ac mae gennym broses arfarnu dwbl-ddall. Pryderu am safon eich Cymraeg? Dilynwch ein canllawiau golygyddol ac fe wnawn ni eich helpu gyda'r gweddill.
3. Mae Gwerddon yn gydnaws â gofynion y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
4. Llwyfan rhad ac am ddim i gyhoeddi gwaith academaidd.
Mae Gwerddon hefyd yn agored ac am ddim i'r darllenydd. Mae erthyglau yn cael eu defnyddio ar restrau darllen a'u dyfynnu mewn ymchwil academaidd eraill.
5. Cyfle i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nid pob cyfnodolyn sy'n derbyn erthyglau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae cyhoeddi yn Gwerddon yn gyfle i gyfrannu tuag at ddiwylliant academaidd cyfoethog Cymru.
