Ychwanegwyd: 11/12/2020 Dyddiad cyhoeddi: 2020 2.1K

Gwerddon Fach ar Golwg 360 - cyfrannu erthygl

Disgrifiad

Mae Gwerddon Fach yn cyhoeddi erthyglau academaidd byrion i roi blas i gynulleidfa eang o’r ymchwil ddiweddaraf gan academyddion blaenllaw o Gymru a thu hwnt

Yn ogystal â chyhoeddi fersiynau poblogaidd o erthyglau hirach sy’n cael eu cyhoeddi yn e-gyfnodolyn Gwerddon ei hun, mae croeso i bobl gyfrannu erthyglau byrion oddeutu 600 – 1,000 o eiriau am unrhyw ymchwil sydd o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach – boed yn adroddiad ar eu gwaith ymchwil diweddaraf nhw a’u cydweithwyr, yn ymateb i ddarganfyddiadau o bwys neu drafodaethau polisi cyhoeddus a materion cyfoes, yn adroddiad ar drafodion cynhadledd academaidd, neu’n gyflwyniad syml i bynciau ymchwil dyrys.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu erthygl, gallwch lawrlwytho copi o'r canllawiau (gweler isod), ac yna cysylltwch â Dr Hywel Griffiths, Is-olygydd Gwerddonhmg@aber.ac.uk.

Gwefanhttps://golwg.360.cymru/gwerddon

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil, Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Erthygl 'Gwerddon'
mân-lun gwerddon fach

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.