Mae'r cyrsiau byr yma ar gyfer prentisiaid sydd â rhywfaint neu ddim sgiliau iaith Gymraeg. Maent yn galluogi prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs yn Gymraeg. Mae'r pecyn cyffredinol yn cyflwyno pwysigrwydd yr iaith Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle. Mae’r pecyn hefyd wedi cael ei addasu ar gyfer pedwar llwybr galwedigaethol penodol: iechyd, gofal plant, amaethyddiaeth ac adeiladwaith.
Mae’r cyrsiau hyn hefyd ar gael drwy byrth dysgu y prif ddarparwyr prentisiaethau yng Nghymru ac mae modd i ddarparwyr lawrlwytho'r cynnwys fel ffolder zip i fedru gwneud hyn.
Gellir lawr-lwytho tystysgrifau i gyd fynd â'r unedau isod: