Ychwanegwyd: 18/01/2021 Dyddiad cyhoeddi: 2021 1.3K

Rheoli amser a phwysau gwaith

Disgrifiad

Yn ystod yr amser ansicr hwn gall fod yn dasg a hanner i reoli amser yn effeithiol. Wrth i nifer ohonom addasu i weithio o bell, tra bod eraill yn dysgu addasu i weithio mewn awyrgylch wahanol ar y campws, gall reoli amser fod yn heriol.

Dyma gyfle ymarferol i adolygu eich steil personol yn nhermau sut fyddwch chi'n rheoli eich gwaith, pobl, gweinyddiaeth, cydbwysedd bywyd a gwaith ac ati.

Cynnwys:

Mae gweithio yn rhithiol a rheoli pwysau gwaith amrywiol ynghyd â sialensiau gofal yn y cartref wedi herio y rhan fwyaf ohonom yn ddiweddar. Bydd y gweithdy hwn yn gyfle i feddwl am y pwysau newydd a’r effaith ar ein hamser,  a bydd cyfle i ystyried ffyrdd o weithio yn fwy effeithiol yn unigol ac fel tîm.

Ar ddiwedd y gweithdy hwn dylai hyfforddeion fod yn gallu:

  • Adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu.
  • Adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser.
  • Gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu.
  • Gwneud defnydd effeithiol o’r dyddiadur/trefnydd personol.
  • Cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost.
  • Gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill.

Bywgraffiad Mari Ellis Roberts

Mae Mari yn Swyddog Adnoddau Dynol ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyfrifol am y ddarpariaeth Datblygu Staff mewnol. Yn ogystal mae hi’n rheoli cynllun Cymhelliant a Mentora'r Brifysgol ac yn rhedeg gweithdai effeithiolrwydd personol megis sgiliau rheoli amser, gosod nodau effeithiol ayb.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch
Perthyn i
Rhaglen Sgiliau Ymchwil, Rhaglen Datblygu Staff
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Gweithdy/Gweminar
Rheoli amser a phwysau gwaith

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.