Daw dau draddodiad cerddorol gwahanol iawn ynghyd wrth i'r gantores Lleuwen Steffan recordio ei halbwm, 'Duw A Ŵyr'. Cawn ddilyn Lleuwen ar ei thaith ysbrydol a cherddorol yn ystod y broses o greu'r gryno ddisg. Cwmni Da, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mynydd Grug (1995)
Mynydd yng ngogledd Arfon, gaeaf 1899. Mae Begw yn edrych ymlaen at yr eira, a'r bore wedyn mae'r byd i gyd yn wyn! Ond ble mae Sgiatan y gath? Mae'r anifail wedi boddi mewn bwced â rhew drosti. Daw clep ar y drws tu ôl iddi - adlais o'r drysau fydd yn clepio arni yn ei bywyd o hynny ymlaen... Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn: Canrif o Gofio
100 mlynedd wedi marwolaeth Hedd Wyn, Ifor ap Glyn sy'n olrhain hanes ei fywyd. Yn 2013, gwerthodd nai Hedd Wyn, Gerald Williams, Yr Ysgwrn i Barc Cenedlaethol Eryri. Dyma lle magwyd y bardd, a chawn weld sut y cafodd y ffermdy a'r tai allan eu trawsnewid yn ganolfan i ymwelwyr fodern, i warchod etifeddiaeth Hedd Wyn i'r dyfodol. Dilynwn ôl troed y bardd i Abercynon, i ddysgu am y tri mis y treuliodd yno fel glöwr, cyn symud ymlaen i Lerpwl i ymweld â rhai o'r lleoliadau a fyddai wedi bod yn gyfarwydd iddo yn ystod ei gyfnod yno yn hyfforddi fel milwr. Yn Ffrainc a Belg, dilynwn gamau olaf y bardd, a chlywed am y modd y cwblhaodd ei awdl fuddugol i Eisteddfod Genedlaethol 1917 tra'n martshio i gyfeiriad y frwydr a fyddai'n hawlio ei fywyd. Tra bod Hedd Wyn ei hun wedi tyfu yn eicon cenedlaethol, felly hefyd y gadair a enillodd yn Eisteddfod Birkenhead - Y Gadair Ddu. Yn Sanclêr, ar ymweliad â gweithdy Hugh Hayley, y dyn sy'n gyfrifol am y gwaith adfer arni, caiff Ifor ryfeddu ar waith cerfio cywrain y Belgiad Eugeen Vanfleteren, ffoadur o'r rhyfel a ymsefydlodd yn Birkenhead ac a gomisynwyd i greu'r Gadair. Gyda chymorth rhai o lythyrau'r bardd, erthyglau papur newydd, a chyfweliadau prin a recordiwyd gyda'i ffrindiau a'i deulu yn ystod y 60au a'r 70au, mae Ifor yn ail-asesu bywyd ac etifeddiaeth y bardd. Pam fod y stori hon yn parhau i gydio yn'om ni? Beth fyddai Hedd Wyn wedi ei gyflawni petai ond wedi cael byw? Efallai bod rhain yn gwestiynau na ellir eu hateb yn llawn, ond mae un peth yn sicr, y bydd enw Hedd Wyn yn parhau i atsain ar hyd yr oesau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hope (2007)
Yr asgellwr rhyngwladol, Shane Williams, a'r actor Richard Harrington yw sêr y ddrama newydd hon gan Karl Francis. Mae Hope, sydd ar ffurf drama ddogfen, yn adrodd stori emosiynol meddyg o Gymru sy'n syrthio mewn cariad â Hope, nyrs o Fadagascar, tra'n gweithio i'r elusen Médecins Sans Frontières yn y Congo. Mae eu perthynas yn arwain at hapusrwydd a thrasiedi. Rygbi yw un o brif themâu Hope, a saethwyd ar leoliad yn Affrica a Chymru. Gydag isdeitlau. Bloom Street, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Tir Neb (2014)
I lawer, 'tir neb' - y llain o dir diffaith rhwng y ffosydd yn Ffrainc a Fflandrys - yw'r symbol fwyaf ingol o'r gwastraff bywyd a fu yn ystod rhyfel gwaedlyd 1914-18. Mae Tir Neb yn ffilm ddogfen delynegol a thrasig sy'n adrodd hanes y Rhyfel Mawr, o'i ddechrau i'w ddiwedd, yng ngeiriau'r bobl a ddioddefodd ar ddwy ochr tir neb. Mae'n seiliedig ar lythyrau o'r cyfnod gan Almaenwyr, Ffrancwyr, ac Americanwyr - ynghyd â Chymry, fel Huw T. Edwards, Hughie Griffith a T. Salisbury Jones. Mae llawer o'r delweddau archif yn y ffilm heb eu gweld ar deledu yng Nghymru o'r blaen. Cwmni Da, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Blodeuwedd (1990)
Ffilm o'r ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis, wedi'i selio ar chwedl y Mabinogi am y ferch a wnaethpwyd allan o flodau. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Byd ar Bedwar
Mae'r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar wedi bod ar S4C ers dyddiau cynta'r sianel yn 1982, ac mae'n un o gonglfeini'r gwasanaeth. Mae'r rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymchwiliadol o'r safon uchaf. HTV Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Siwan (1986)
Drama rymus yn seiliedig ar un o ddramâu enwocaf Saunders Lewis. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr Genedlaethol Cymru (2006)
Cyfres ddogfen newydd sy’n codi’r llen ar flynyddoedd cyntaf Theatr Genedlaethol Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Taith yr Iaith (2006)
Gwyneth Glyn sy’n dilyn taith yr iaith Gymraeg o’i gwreiddiau yn Rwsia hyd ei sefyllfa bresennol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Gwyddonydd – cyfrol 33, 2013
Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013 Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996. I ddathlu'r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013.
