Rhaglen sy'n olrhain hanes David Ifon [Ivon] Jones (1883-1924) a'i ymroddiad i De Affrica ar ôl iddo ymfudo yno tra'n dioddef o'r salwch TB. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Affricanwr o Aberystwyth (1994)
Cymdeithas yr Iaith yn 50 (2012)
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Fôn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif o ymgyrchu brwd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Rondo, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yn Eu Geiriau Eu Hunain (1995)
Hanner can mlynedd yn union i Awst 28 eleni (1995) fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd yn y Dwyrain Pell i ben. Am bron i bedwar mis ar ôl i'r Almaen ildio i fyddinoedd Prydain, America a'r Undeb Sofietaidd, roedd lluoedd milwrol ymerawdwr Siapan yn parhau i frwydro. Yn y rhaglen arbennig yma fe gawn glywed hanesion rhai o'r milwyr a ddaeth yn ôl o'r ymladd. Agenda, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Sglefrio ar Eiriau – John Rowlands (gol.)
Cyfres o erthyglau gan feirniaid yn trafod agweddau amrywiol ar lenyddiaeth, gan geisio osgoi'r rhigolau confensiynol. Llenyddiaeth fel rhywbeth diddorol a pherthnasol yw eu pwnc ac edrychir ar lên drwy sbectol strwythuraeth, ôl-strwythuraeth, dadadeiladu, Marcsiaeth, ffeministiaeth a hanesyddiaeth newydd. Ond does yma ddim gorbwyslais ar theori, ond yn hytrach sgrifennu bywiog sy'n taflu goleuni newydd ar amryw bynciau gan feirniaid hyddysg yn y syniadau beirniadol diweddaraf.
Ymadawiad Arthur (1994)
Wedi ei seilio yn y flwyddyn 2096 mae'r ffilm yn dilyn hanes, neu'n hytrach strach, Cymry'r dyfodol i ddarganfod 'Diwylliant Cymraeg' wedi i rhywun golli'r disg oedd yn dal yr holl wybodaeth bwysig. Mae Cymry'r dyfodol yn ceisio cael gafael ar y Brenin Arthur i arwain ei bobl ac yn danfon anffodus yn yn ôl i'r flwyddyn 1960 i ddarganfod diwylliant y werin. Cynyrchiadau'r Bae, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Merêd (2014)
Portread tyner o'r diweddar hanesydd canu gwerin, yr athronydd a'r cynhyrchydd adloniant o Danygrisiau, y Dr Meredydd Evans a fu farw flwyddyn yn ôl i heddiw (ar 21 Chwefror 2015). Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig yn ei gartref diarffordd yng Nghwm Ystwyth ynghyd â chyfweliadau gyda chyfeillion, edmygwyr ac aelodau o'i deulu, dyma ddarlun o ddyn sydd wedi ymgyrchu'n ddiflino dros hawliau i Gymru a'r Gymraeg dros y blynyddoedd ac sydd hefyd wedi cyfrannu'n uniongyrchol tuag at ddiwylliant y wlad. Ag yntau wedi penderfynu'n ddiweddar i ymddeol o lygad y cyhoedd, dyma lwyfan olaf Merêd, lle mae'n edrych yn ôl dros ei fywyd ac yn gwyntyllu ei farn ynglŷn â sawl pwnc sy'n agos at ei galon. Cwmni Da, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cylchgronau Cymru
Gwefan newydd Cylchgronau Cymru, sy'n cynnwys 1.2 miliwn o dudalennau o dros 475 o deitlau a gyhoeddwyd rhwng 1735 a 2007. Gwefan gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Separado! (2012)
Mae'r seren bop Gymreig Gruff Rhys (Super Furry Animals) yn ein tywys ar wibdaith dros sawl cyfandir i ddarganfod ewythr colledig ym Mhatagonia - y gitarydd mewn poncho, René Griffiths. Ym 1880, yn dilyn ras geffylau ddadleuol wnaeth arwain at farwolaeth amheus, rhwygwyd teulu Gruff Rhys pan ymunodd Dafydd Jones a'i deulu ifanc â'r fintai i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, De America. Ni fu cysylltiad rhwng y ddwy gangen deuluol am bron i ganrif, tan ddaeth René Griffiths i Gymru ym 1974 i wefreiddio cynulleidfaoedd gyda'i ganeuon serch Hisbaenaidd. Dilyna'r cyfarwyddwr Dylan Goch daith Gruff Rhys trwy theatrau, clybiau nos a thai te Cymru, Brasil ac Andes yr Ariannin, wrth iddo ddarganfod hanes ei deulu, Cymry Patagonia, a'u hetifeddiaeth gerddorol. Soda, 2012. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Ugeinfed Ganrif – Geraint Bowen (gol.)
Y drydedd cyfrol a'r olaf yn y casgliad pwysig ar ryddiaith Gymraeg wedi ei olygu gan Geraint Bowen. Yma ceir cyfres o benodau gan brif arbenigwyr eu dydd yn trafod agweddau ar ryddiaith Gymraeg yr ugeinfed ganrif, gan gynnwys gramadeg John Morris-Jones, trafodaethau ar unigolion pwysig y cyfnod a ffurfiau newydd megis y stori fer a'r ysgrif. Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido
Frongoch
Ar ôl 10 mlynedd o chwilio am destun drama fyddai’n apelio at y Cymry a’r Gwyddelod mae Llwyfan Gogledd Cymru, trwy gyfrwng llwyfanu traddodiadol a thechnoleg arbrofol, yn perfformio addasiad o lyfr dogfenol Sean O’ Mahonyo ‘Frongoch: University of Revolution.’ Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
