Adnodd ar gyfer myfyrwyr Amaeth sydd yn astudio cymhwyster lefel 2, ac yn canolbwyntio ar iechyd a diogelwch, gwaredu gwastraff ar y fferm, a’r defnydd o offer ar y fferm. Mae’r adran iechyd a diogelwch yn cynnwys cyflwyniadau PowerPoint a Word sydd yn cynnwys dogfennau ar asesiadau risg, peryglon a ‘manual handling’. Mae’r adran gwastraff fferm yn cynnwys chwech dogfen Word sydd yn gysylltiedig â gwaredu gwastraff ar y fferm. Yn y pecyn defnyddio offer fferm ceir cyflwyniad PowerPoint a dogfennau Word y gellir eu defnyddio a’u haddasu ar gyfer cynllunio taflenni gwaith i’r ystafell ddosbarth.
Diogelwch, Gwastraff ac Offer
Rheolaeth Busnes ar y Fferm
Adnodd digidol a gynhyrchwyd gan Tinopolis a Choleg Sir Gar. Wrth ddefnyddio’r adnodd hwn, rhoddir profiad ‘real’ i’r myfyrwyr i gyflawni tasgau yn cynnwys: - Cwblhau dogfennau er mwyn danfon gwartheg i’r lladd-dy neu ŵyn i’r farchnad - Cwblhau ffurflenni TAW ar lein - Amryw o ddogfennau rheoli busnes sydd yn ymwneud â rhedeg mentrau fferm - Cofrestru llo newydd anedig gyda SOG ar lein - Paratoi’r fferm gyda’r gwaith papur angenrheidiol ar gyfer ymweliad Gwarant Fferm. Mae cynnwys yr adnodd yn briodol iawn ar gyfer unedau anifeiliaid fferm a rheoli busnes ar lefel 2 a 3.
Myfyriwr Amaeth
24 o glipiau fideo a gynhyrchwyd gan gwmni Telescop. Maent yn 5 i 8 munud o hyd, ac yn cynnwys milfeddygon, darlithwyr ac arbenigwyr yn trafod egwyddor benodol neu yn arddangos sgil. Maent yn addas iawn ar gyfer rhai o’r unedau sydd yn cael eu dysgu fel rhan o’r cwrs Lefel 3 (BTEC a City & Builds), sef: - Cynhyrchiant defaid - Cynhyrchiant bîff - Llaethydda - Cynhyrchiant Porfa - Peirianneg amaethyddol - Sgiliau cynnal ystadau - Rheolaeth moch a ieir - Iechyd anifeiliaid fferm Gellir defnyddio’r clipiau er mwyn arddangos sgil penodol ac yna trin a thrafod hyn gyda’r myfyrwyr o fewn yr ystafell ddosbarth cyn cwblhau taflen waith. Mae nifer o’r clipiau yn rhoi sylfaen dda i’r myfyrwyr cyn iddynt fynd allan i ymarfer y sgil.
Hwb: Adnoddau Amaethyddiaeth
Adnoddau Amaethyddiaeth ôl-16 ar Hwb, platfform digidol dysgu ac addysgu Llywodraeth Cymru.