Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.
Pecyn Prentis
Siop un stop ar gyfer cyflogwyr i gefnogi prentisiaid dwyieithog a’r Gymraeg. Mae Pecyn Prentis yn adnodd digidol cynhwysfawr wedi’i lunio er mwyn helpu cyflogwyr i recriwtio, datblygu a chefnogi prentisiaid sy’n defnyddio’r Gymraeg. Yma, cewch gyfuniad gwerthfawr o wybodaeth gyfredol, cyngor arbenigol ac adnoddau ymarferol sy’n addas ar gyfer pob cam o’r daith brentisiaeth. O ddarparwyr prentisiaethau i gymorth gyda’r iaith Gymraeg a chyngor gyrfa, mae’r adnodd yn cwmpasu’r cyfan. Mae'n cynnwys astudiaethau achos ysbrydoledig, clipiau fideo bywiog a storïau o lwyddiant gan brentisiaid cyfredol neu sydd newydd gymhwyso, yn ogystal â chan eu cyflogwyr. Boed yn gyflogwr newydd i fyd prentisiaethau neu’n sefydliad profiadol, mae Pecyn Prentis yn cynnig gwir fewnwelediad go-iawn, enghreifftiau o arfer dda, a chefnogaeth benodol er mwyn galluogi pob prentis i ffynnu mewn amgylchedd dwyieithog.
Cwrs Codi Hyder i Aseswyr
Diben y cwrs hunanastudio ar-lein hwn yw rhoi’r adnoddau a’r wybodaeth i aseswyr weithio yn ddwyieithog yn hyderus gyda’u dysgwyr. Mae'r cwrs yn ystyried rhai o’r buddion a'r heriau o weithio'n ddwyieithog ac mae'n cyflwyno gwybodaeth, adnoddau a chymhelliant i allu datblygu darpariaeth a gweithio yn hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs yn ddwyieithog, ac wedi ei anelu at godi hyder aseswyr wrth iddynt ddarparu eu hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg.
