Brwydr Coedwig Mametz ar y Somme oedd un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Rhyfel Byd Cyntaf. Dros gyfnod o bum niwrnod yn Gorffennaf 1916, collodd Byddin Gymreig Lloyd George 4,000 o ddynion, naill ai wedi'u lladd neu eu hanafu wedi ymosodiadau ar y goedwig. Yn ystod y mis hwn [Gorff 1987] mae rhai o'r cyn-filwyr sydd dal yn fyw yn dychwelyd i Goedwig Mametz am y tro cyntaf mewn 71 o flynyddoedd i ddadorchuddio cofeb i'r sawl a lladdwyd yng Nghoedwig Mametz. Daw elfennau o'r archif gan yr Amguedfa Genedlaethol, Amgueddfa Filwrol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. HTV Cymru, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dim ond Heddiw (1978)
Cyfres ddrama gan Meic Povey, wedi'i lleol yng nghanol bwrlwm prysur y brifddinas. Darlithydd parchus yw Gareth Samuel. Nid yw ei wraig mor barchus. Mae ei chysylltiadau ag isfyd y dociau ac un neu ddau o fyfyrwyr ei gŵr yn ei harwain i bob math o drybini... HTV Cymru Wales, 1978. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Malcolm Allen: Cyfle Arall (2014)
Rhaglen bwerus am y cyn bêl-droediwr rhyngwladol, Malcolm Allen o Ddeiniolen, wrth iddo siarad yn agored am y tro cyntaf am dreialon ei fywyd a'i yrfa liwgar. Mae Malcolm a'r teulu yn siarad yn ffraeth ac yn onest am y cyfnod tywyll hwnnw lle bu bron iddo golli popeth. Ar ôl brwydr hir, mae Malcolm wedi dod drwyddi ac wedi cychwyn ar bennod newydd yn ei fywyd. Ymysg y cyfranwyr mae Graham Taylor, Mick McCarthy, Kevin Keegan a Syr David Brailsford. Rondo, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Talcen Caled
Cyfres deledu sy’n olrhain hanes teulu Les a Gloria yn wyneb caledi wrth i’r cwmni y mae Les yn gweithio iddi fynd yn fethdalwyr. Dilynir ef wrth iddo chwilio am waith, a cheisio cael dau pen linyn ynghyd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?' (2017)
Roedd Syr Siôn Prys (1501/~1555), o Aberhonddu, ymhlith y mwyaf dylanwadol o weision y Goron yng Nghymru a'r Gororau mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol a chrefyddol mawr. Roedd hefyd yn un o'r Cymry cyntaf i ymateb yn gadarnhaol i rai o'r pwysleisiau diwylliannol a deallusol newydd a gysylltid â'r Dadeni Dysg. Yn yr ysgrif hon trafodir y tensiwn rhwng, ar y naill law, ei ddysg a'i safbwynt dyneiddiol ac, ar y llaw arall, ei ymlyniad wrth y fersiwn o hanes Prydain a gyflwynid yng ngwaith Sieffre o Fynwy (12g.) ac y gwrthodwyd bron y cyfan ohono gan yr Eidalwr Polidor Vergil mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn y 1530au. Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?', Gwerddon, 24, Awst 2017, 8-21.
Yr Athro J. R. Jones (Llên y Llenor) – E. R. Lloyd-Jones
Cyfrol deyrnged i'r athronydd, pregethwr, heddychwr a'r cenedlaetholwr, J. R. Jones. Er mai cyfrol yng nghyfres Llên y Llenor yw hon, nid astudiaeth o arddull a mynegiant a geir yma, ond yn hytrach edrychir ar gynnwys gweithiau J. R. Jones.
O'r Ddaear Hen (1981)
Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dÅ· cyngor, daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddi orfodi i William symud y pen o'r tÅ·. Yn ei dro, aiff a'r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy'n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy'n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw'r pen aiff â fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tÅ·. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Theatr i'r Bobl: Bara Caws (2007)
Ym 1977, yn anhapus gyda sefyllfa'r theatr yng Nghymru ar y pryd, mi aeth criw o actorion a cherddorion ifanc ati i sefydlu cwmni a fyddai'n mynd â'r theatr yn ôl at y bobl. Cwmni cydweithredol yw Bara Caws, sy'n mynnu defnyddio adeiladau sydd eisoes yn ran o'r cymunedau i'w perfformiadau, yn gapeli, neuaddau pentref a thafarndai. Eleni mae Bara Caws yn dathlu ei phenblwydd yn 30 mlwydd oed, a bydd y Sioe Gelf yn bwrw golwg yn ôl ar gynyrchiadau’r cwmni dros y tri degawd ddiwethaf. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Mae'r Wlad Hon yn Eiddo i Ti a Mi (1994)
Ar Ebrill 27 (1994) cynhelir etholiad yn Ne Affrica pan fydd yr hawl am y tro cyntaf erioed gan bawb o drigolion y wlad, y duon yn ogystal a'r gwynion, i bleidleisio. Emyr Daniel sy'n edrych ar hanes y gwahanol bobloedd sydd yn byw yn y wlad hynod o brydferth hon ac, er gwaetha'r trais a'r tlodi, yn gweld arwyddion o obaith. Merlin Television, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Weithred (1995)
Drama gan Meic Povey yn seiliedig ar hanes tri Chymro - Emyr Llewelyn, Owain Williams a John Albert Jones - a ymdrechodd i rwystro cynlluniau Corfforaeth Lerpwl i foddi pentref Capel Celyn yng Nghwm Tryweryn yn y Chwedegau. Opus 30, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Byw Celwydd
Cyfres sy'n portreadu gwrthdaro rhwng newyddiadurwyr, ymgynghorwyr a gwleidyddion sy'n aelodau o bleidiau dychmygol ym Mae Caerdydd. Yn dilyn etholiadau, clymblaid sydd mewn grym, rhwng tair plaid sef Y Ceidwadwyr Newydd, Y Cenedlaetholwyr a'r Democratiaid gyda'r Sosialwyr yn wrthblaid. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Lleisiau'r Rhyfel Mawr (2008)
Prin oedd y rhai ym 1914 a gredai y gallai rhyfel yn Ewrop barhau mwy nag ychydig fisoedd. Eto, erbyn 1918 roedd yn agos at dri chan mil o fechgyn Cymru wedi ymladd yn Ewrop a thu hwnt – ac un o bob saith ddim yn dod gartref. Naw deg naw o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae lleisiau’r milwyr a’r dinesyddion a welodd erchylldra’r Rhyfel Mawr yn fyw o hyd yn y cyfoeth o lythyrau, dyddiaduron ac erthyglau papur newydd a ysgrifennwyd ar y pryd. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
