Wrth i William Jones (Charles Williams) balu yng ngardd ei dÅ· cyngor, daw o hyd i ben carreg od yr olwg. Yn ystod y nos caiff ei wraig freuddwydion arswydus gan beri iddi orfodi i William symud y pen o'r tÅ·. Yn ei dro, aiff a'r pen i archeolgydd ym Mhrifysgol Bangor (Valerie Wynne-Williams) sy'n arbenigwr ar greiriau Celtaidd ac sy'n ceisio palu am olion y Celtiaid mewn man arall. Er mwyn ceisio deall beth yw'r pen aiff â fo adref gyda hi, ond i bethau ddechrau mynd o chwith yn y nos yno hefyd gan ddod â breuddwydion erchyll o greadur hanner dyn hanner anifail i wragedd y tÅ·. Un wrth un caiff teulu'r archeolegydd eu arswydo gan arwain at angau ac aberth arall i dduwiau hynafol y Celtiaid.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.