Bydd cyn-flaenasgellwr Cymru a Llanelli, Dafydd Jones, yn mynd ar drywydd y Pymtheg Olaf mewn rhaglen arbennig fydd yn dilyn hanes tîm rygbi Cymru 1914. Roedd tîm rygbi rhyngwladol Cymru yn 1914 yn dîm hynod lwyddiannus ac yn cynnwys llawer o'r chwaraewyr a oedd wedi ennill tair Camp Lawn rhwng 1908 a 1911. Caent eu hadnabod fel carfan rymus tu hwnt yn gorfforol, llysenw eu blaenwyr oedd 'the terrible eight'. Roedd hyn mewn cyfnod ymhell cyn i'r gêm fynd yn broffesiynol, ac roedd sawl crefft gwaith yn y tîm, gyda'r gweinidog Jenkin Alban Davies o Aberaeron yn gapten ar y garfan. Ond yn ystod y Rhyfel Mawr a ddechreuodd yn 1914, ymrestrodd naw ohonynt yn y fyddin, chwe wythnos wedi eu gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwerddon. Tinopolis, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Chwilio am Mary Vaughan Jones (2013)
Mary Vaughan Jones oedd un o awduron llenyddiaeth plant mwyaf llwyddiannus yr iaith Gymraeg. Creodd gymeriadau cofiadwy wnaeth symbylu cenhedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen. Yr enwocaf ohonynt wrth gwrs oedd Sali Mali. Bu farw Mary Vaughan Jones ym 1983 ac o ganlyniad ni fu iddi weld y llwyddiant rhyngwladol a ddaeth i ran Sali Mali drwy gyfrwng rhaglenni teledu ar S4C. Mae pawb yn adnabod ei chymeriadau, ond pwy oedd Mary Vaughan Jones? Lumedia, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Pianydd Llŷr Williams (2006)
Portread o'r pianydd ifanc disglair Llŷr Williams, a ddisgrifiwyd yn mhapur The Times fel 'un a fydd bron yn sicr ryw ddydd yn un o'r mawrion.' Bu'r Cymro 29 oed o Bentrebychan, Sir y Fflint, yn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, ac yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Wrth astudio, enillodd yr holl wobrau posibl a graddio yn 2000 gyda Dip RAM, cymhwyster ucha'r Academi. Yn 2004 dewiswyd LlÅ·r fel Artist Cenhedlaeth Newydd y BBC ac yn 2005 fe enillodd wobr gyntaf MIDEM Classique mewn partneriaeth gydag IAMA ar gyfer 'Yr Artist Ifanc Eithriadol'. Mae ei berfformiad o weithiau Mozart yn hudol. Opus, 2006. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pwy sy'n Gwisgo'r Trowsus? (2014)
Mae'r rhaglen hon yn edrych ar hanes pedair merch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yng ngwesty'r Cambrian yn Aberystwyth mae Dafydd a Gareth Davies yn trafod eu modryb Jesse. Roedd Jesse yn nyrsio yn ystod y rhyfel ym Manceinion. Mae'r ddau wedi casglu lluniau ohoni ac wedi cadw ei llyfr lloffion. Mae'r hanesydd Catrin Stevens yn safle ffatri arfau Pen-bre gyda Beth Leyshon. Roedd perthynas i Beth - Olwen Leyshon - yn gweithio yn y ffatri. Mae Catrin yn trafod gwaith peryglus y munitionettes, ac angladd fawr dwy o'r merched yn Abertawe. Catrin hefyd sy'n holi Meic Haines o Abertawe am ei fam-gu, Edith. Hi oedd un o'r merched cyntaf i gael swydd clippie ar y bysiau yn Abertawe. Mae'r ddau yn cyfarfod yn amgueddfa fysiau Abertawe i drafod yr hanes. Yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth mae Dr Dinah Evans yn trafod Olwen Carey Evans gydag aelod o'r teulu - Manon. Roedd Olwen yn perthyn i'r VADs ac aeth i weithio yn Ffrainc. Yn y Llyfrgell mae lluniau a dyddiadur Olwen o'r cyfnod. Mae'r Dr Graham Jones yn rhoi hanes priodas Olwen yn ystod y rhyfel. Elen Phillips sydd yn sôn am hanes dillad cyn 1914, dyfodiad y trowsus a'r hyn ddigwyddodd i ffasiwn merched ar ddiwedd y rhyfel. Boom Cymru, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Solomon a Gaenor (1998)
Ffilm a enwebwyd am Oscar gydag Ioan Gruffudd a Nia Roberts yn chwarae'r prif rannau. Stori serch yw hi lle mae perthynas y cariadon yn croesi rhaniadau crefyddol a chymdeithasol mewn cymuned yng Nghymoedd y De ar ddechrau'r 19eg ganrif. Maureen Lipman a David Horovitch sy'n chwarae rhieni'r Iddew, Solomon gyda William Thomas a Sue Jones Davies yn chwarae rhieni Gaenor. S4C a September Films, 1998. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pen Talar (2010)
Cyfres ddrama ddirdynnol, yn dilyn Defi a Doug o Dachwedd 1962 dros y degawdau hyd at 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Achos Preifat Spiers (1997)
Ym mis Awst 1911, yn ystod Streic Rheilffordd Llanelli, cafodd dau streiciwr ifanc eu saethu'n farw ac anafwyd eraill gan y fyddin. Gwrthododd un milwr, Preifat Harold Spiers, ufuddhau'r gorchymyn i saethu. Mae'r rhaglen hon yn olrhain hanes y driniaeth a gafodd gan y fyddin o ganlyniad i'r weithred hon. Teliesyn, 1997. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hughesofka a'r Rwsia Newydd (1991)
John Hughes aeth i'r Wcrain ganol y 19eg ganrif i gynhyrchu glo a haearn ar wahoddiad y tsar. Sefydlodd Gwmni'r Rwsia Newydd ac ymunodd llu o Gymry yn ei fenter. Y diweddar Athro Gwyn Alf Williams sy'n olrhain hanes y dyn, ei weithwyr, a'r dref a enwyd yn 'Hughesofka' [bellach Donestsk] tref Hughes, ar ei ôl. Teliesyn, 1991. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Llid y Ddaear (1989)
Ffilm gan Karl Francis sy'n olrhain hanes cymdeithas lofaol yn ne Cymru drwy lygaid Gwen, brodores o'r ardal sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 110 oed. Cinecymru 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Mapiwr (1995)
Ym 1962 mae dau beth yn poeni'r bachgen 14 oed, Griff - diflaniad Alis, seren dosbarthiadau dawns ei fam, ac argyfwng Ciwba. Mae'n ceisio datrys y dirgelion o'i gwmpas trwy gynllunio mapiau. Ond mae'r mapiau yn ei hudo i fyd y tu hwnt i'w brofiadau diniwed ac mae'n darganfod yr ateb annisgwyl i ddirgelwch Alis. Gaucho Cyf, 1995. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Enw Casgliad e.g Cefnogi Pob Plentyn - Name of collection e.g Cefnogi Pob Plentyn
Dim disgrifiad ar gael
David Lloyd George (2006)
Cyfres ddogfen ddwy ran am David Lloyd George yng nghwmni'r hanesydd a'r awdur Hywel Williams. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.