Trafodaeth gyfoes ar ffurf y stori fer Gymraeg. Cyflwynir safbwyntiau chwe awdur cyfoes a fu'n cyhoeddi ym maes y stori fer yn ystod y blynyddoedd diwethaf sef Fflur Dafydd, Jon Gower, Aled Islwyn, Caryl Lewis, LlÅ·r Gwyn Lewis a Mihangel Morgan er mwyn taflu goleuni ar y modd y mae'r stori fer yn cael ei hystyried heddiw.
Crefft y Stori Fer Heddiw
Cyflwyno Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr
Amcan yr adnodd hwn yw helpu actorion a sgriptwyr Cymraeg, nid yn unig i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol, ond hefyd i’w defnyddio yn ymarferol wrth eu gwaith bob dydd.
Ceir yma glipiau sain wedi eu recordio’n Ionawr 2015 gan Dr Iwan Rees o dafodieithoedd yn Nyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn.
Mae’r atodiadau’n cynnwys canllawiau manwl gan Dr Iwan Rees ar gyfer pob clip gan dynnu sylw at elfennau ieithyddol penodol (ar eirfa, seiniau, gramadeg a’r oslef, er enghraifft).
Oherwydd resymau hawlfraint, bydd angen mewngofnodi er mwyn cael mynediad i nifer o'r cilipau fideo.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa
Croeso i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd gan Dr Iwan Wyn Rees, Prifysgol Caerdydd. Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Cymdeithas yr Iaith yn 50 (2012)
Gwion Lewis, y bargyfreithiwr o Fôn, sydd yn cyflwyno rhaglen ddogfen arbennig yn pwyso a mesur hanner canrif o ymgyrchu brwd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mudiad sydd wedi chwarae rhan bwysig yn llywio hunaniaeth a diwylliant Cymru. Rondo, 2012.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymraeg Gwaith
This is a collection of scripts and audio clips for Work Welsh learners at Entry level that go hand in hand with units 1-10. These resources reinforce classroom learning (from staff in higher and further education) and are suitable for beginners.
These resources were developed under the auspices of the National Center for Learning Welsh as part of a project co-ordinated by the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cymru Fach (2008)
Chwant a chariad, nwyd a naid, serch a siom, dialedd a diogi...yng Nghymru Fach. Addasiad o ddrama lwyfan yw Cymru Fach a berfformiwyd gan Sgript Cymru. Mae'n canolbwyntio ar wahanol agweddau ar y gymdeithas Gymreig. Mae'r ddrama wedi ei rhannu'n ddeg golygfa gyda phob un yn canolbwyntio ar ddau gymeriad (bachgen a merch) a'u perthynas â'i gilydd. Yn cynnwys iaith gref a noethni. Ffilmiau Boom Films, 2008.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cymuned gan Hywel Williams (2014)
Mewn rhaglen ddogfen onest, yr hanesydd Hywel Williams fydd yn herio'r syniad bod Cymru'n genedl 'gymunedol'. Aiff Hywel ati yn ei ffordd ddihafal ei hun i ddryllio'r ddelwedd yma o Gymru fel gwlad 'gymunedol': cymuned glos, saff a mewnblyg. Ond o ble daw'r syniad yma yn y lle cyntaf ac ai ystrydeb yw'r cyfan? Drwy ddefnydd crefftus o archif, sgript, cerddoriaeth a barddoniaeth, bydd Hywel yn cyflwyno dadl ddeallusol a gweledol fydd yn codi cwestiynau ac yn tanio trafodaeth. Awen.tv, 2014.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 1)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 2)

A55 (Cyfres 3)

Ac Eto Nid Myfi (1987)
Drama lwyfan wedi'i haddasu ar gyfer y teledu gan John Gwilym Jones, awdur y ddrama wreiddiol. Llion Williams sy'n chwarae'r brif rhan. Ffilmiau Bryngwyn, 1987.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
E-lyfr newydd gan yr Athro Enlli Môn Thomas a Dr Peredur Webb-Davies o Brifysgol Bangor. Ac ystyried bod mwy o ieithoedd gwahanol nag o wledydd yn y byd, mae'n anochel bod ieithoedd yn dod i gysylltiad â'i gilydd mewn rhyw ffordd ac ar ryw adeg yn ystod eu bodolaeth. O ganlyniad, poblogaeth amlieithog ei naws yw'r rhan helaethaf o boblogaeth y byd. Er nad oes ffigyrau penodol (neu ddull casglu data digon ymarferol) yn nodi'r union ganran neu union nifer y siaradwyr uniaith a dwyieithog a geir, mae meddu ar ddwy neu fwy o ieithoedd yn ddarlun teg o'r 'norm' ieithyddol cyfredol ar gychwyn yr 21ain ganrif. O'r ychydig dros 6,000 o ieithoedd sy'n parhau i fodoli ledled y byd, prin bod unrhyw un wedi'i hynysu rhag pobloedd neu gymdeithasau ieithyddol eraill. Daw pob iaith bron i gysylltiad ag iaith arall, ond nid pawb sydd o'r farn fod hynny'n dda o beth! Bwriad y llyfr hwn yw eich cyflwyno i fyd y siaradwr dwyieithog, ac i herio nifer o fythau ynglÅ·n ag anfanteision - ac, yn wir, manteision - dwyieithrwydd. Y gobaith yw y bydd y darllenydd, o ddarllen y gyfrol hon, yn deall yn well natur ac anghenion unigolion sydd yn meddu ar sgiliau mewn dwy iaith.