Darlith gan Alan Llwyd ar Kate, ei gofiant i Kate Roberts. Recordiwyd y ddarlith yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ym mis Mawrth 2012. Cyllidwyd y digwyddiad drwy gyfrwng grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Alan Llwyd yn trafod Cofiant Kate Roberts
Amdani (Cyfres 1)
Cawn fwynhau cwmni Llinos (Ffion Dafis) a gweddill y tîm rygbi merched mewn tref fechan yng Ngogledd Cymru.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Angharad Tomos (1985)
Rhaglen ddogfen yn dilyn Angharad Tomos wrth iddi weithio gyda grwpiau o blant ysgolion cynradd yn llunio straeon yn cynnwys y plant fel cymeriadau. Bydd Angharad yn trafod ei magwraeth heb deledu ac yn esbonio sut y gwnaeth ei rhieni creadigol feithrin ei hoffder o arlunio a chreu cymeriadau a straeon. Ar ôl gorffen ymarfer dysgu, cafodd gyfle i weithio gyda Chwmni Theatr Mewn Addysg: Cwmni'r Frân Wen, ar ddrama i blant, a chawn weld sut yr oedd cael gweithio gydag awdur yn brofiad difyr i'r theatr a'r actorion. HTV Cymru, 1985.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Minority nationalist parties and their adaption to devolution: A comparative study of Plaid Cymru and the Bloq...
In many places, devolution has created new regional arenas within which minority nationalist parties have been highly successful in mobilising support for their national projects. However, scholars have paid scant attention to how minority nationalist parties have adapted as they have become major players in regional politics. This article examines such process of adaptation in the cases of two minority nationalist parties: Plaid Cymru in Wales and the Bloque Nacionalista Galego in Galicia. It is argued that the experiences of these parties in adapting to passing the thresholds of representation, relevance and government in their respective regions are far from unique. Rather, they reflect the challenges that any political party faces when it makes the transition from protest to power.
Archwilio Cymru'r Oesoedd Canol: Testunau o Gyfraith Hywel
Mae'r ddogfen hon gan Sara Elin Roberts a Christine James yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i Gyfreithiau Hywel Dda, sef cyfreithiau brodorol Cymru yn yr Oesoedd Canol, trwy roi 'blas' i'r darllenydd ar yr amrywiaeth eang o feysydd gwahanol sy'n cael eu trafod yn y llawysgrifau gwreiddiol - meysydd mor amrywiol â chyfraith Gwragedd a Gwerth Offer, Coed a Chathod, rheolau ynghylch Tir, a Thrais, a Theulu'r Brenin... I gynorthwyo'r darllenydd amhrofiadol, ac er mwyn annog astudiaethau yn y maes, gosodwyd y detholion o'r testunau Cymraeg Canol gwreiddiol ochr-yn-ochr â 'chyfieithiadau' ohonynt mewn Cymraeg Diweddar. Mae rhagymadrodd byr i bob pwnc yn ei dro, a llyfryddiaeth ddethol ar ddiwedd pob uned ar gyfer darllen pellach. Dyma gyfrol a fydd o ddiddordeb a defnydd i bawb sy'n ymddiddori yn hanes y Gyfraith, hanes Cymru neu lenyddiaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol. Ceir llawer mwy o wybodaeth am Gyfraith Hywel Dda ar wefan Cyfraith Hywel:
Cynhadledd ‘Boddi mewn Celfyddyd’: Gwaddol ’65
Hanner can mlynedd ar ôl boddi Tryweryn, trefnwyd cynhadledd i gasglu ynghyd a gwerthfawrogi’r gwaddol celfyddydol a ysbrydolwyd gan foddi’r cwm mewn cynhadledd deuddydd mewn lleoliad arbennig nid nepell o Dryweryn.
Yn ystod y gynhadledd, traddodwyd darlithoedd gan Dafydd Iwan a Manon Eames, a chafwyd arddangosfa aml-gyfrwng unigryw yn dogfennu hanes y boddi, a’r cynnyrch celfyddydol a grëwyd yn ei sgil. Cafwyd hefyd gyfle i ymweld â Thryweryn a chlywed am brofiadau ac atgofion Aeron Prysor Jones am foddi’r cwm, yn ogystal â mwynhau detholiad o’r ddrama Porth y Byddar gan Manon Eames, o dan gyfarwyddyd Siwan Llynor.
Noddwyd y gynhadledd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor.
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd.
Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ancient gentry and the modern nation: Gwaed yr Uchelwyr read in the light of anglophone Welsh fiction of the C...
The core argument of the essay is that it would be worth setting Saunders Lewis’ important early play, Gwaed yr Uchelwyr, in the context of several anglophone Welsh novels published at the turn of the nineteenth century that sought to assess the relevance of the culture of the indigenous gentry of Wales to the new nation celebrated by the Cymru Fydd movement. It is argued that familiarity with these texts could assist us to grasp the subtlety and rich ambivalence of the play’s ideological stance.
Oes yn y Wladfa (1985)
Sgwrs ag Elias Garmon Owen a dreuliodd dri chwarter canfrif ym Mhatagonia, a chyfle i rannu rhai o'i brofiadau yno ac yn Nyffryn Conwy ei ieuenctid. ITV Cymru, 1985.
Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Rôl ataliad mewn dwyieithrwydd
Mae'r prosiect yma yn anelu at edrych ar sut mae pobl ddwyieithog (sy'n rhugl neu yn datblygu eu Cymraeg) yn cael gafael ar ac yn defnyddio pob un o'u hieithoedd. Ar ben hynny, bydd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng y ddwy iaith ac, yn benodol, sut mae cael ail iaith (Cymraeg) yn dylanwadu ar berfformiad yn eu hiaith gyntaf (Saesneg). Mae hyn yn bwysig nid yn unig achos bydd yn rhoi mewnwelediad i rôl ataliad mewn prosesu iaith ddwyieithog, ond bydd hefyd yn taflu golau ar sut mae siaradwyr Cymraeg yn dysgu'r iaith ac integreiddio i mewn i'r geiriadur meddwl mewnol, a allai, yn ei dro, yn arwain at strategaethau addysgol a all gynyddu effeithlonrwydd dysgu Cymraeg fel ail iaith. Yr astudiaeth hon yw'r cyntaf i archwilio rôl ataliad mewn pobl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg a'r rhai sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith a disgwylir iddo fod yr astudiaeth gyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Ariannwyd y gwaith gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg
Alan Llwyd discusses the film 'Hedd Wyn'
Interview with Alan Llwyd about the film ‘Hedd Wyn’ and the art of scripting for the screen. There is a Question and Answer section at the end. The session was recorded in the School of Creative Arts and Media in Bangor University, in March 2012.