Ychwanegwyd: 04/05/2022 Dyddiad cyhoeddi: 2022 813 Cymraeg Yn Unig

Cynhadledd Antur

Disgrifiad

Cynhadledd Antur  (Cynhaliwyd 18/02/2022) 

Bwriad y gynhadledd undydd “Antur” yw cau'r bwlch rhwng y diwydiant a myfyrwyr gyda’r ffocws ar gynnwys o faes campau awyr agored. Wedi ei gynnal yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin ac wedi ei lunio ar y cyd rhwng prifysgolion y Drindod Dewi Sant, Aberystwyth, Bangor ac Abertawe bydd myfyrwyr ffilm a chyrsiau awyr agored yn mynychu’r gynhadledd yn Yr Egin ac arlein.

Mae tri siaradwr gwadd anhygoel am rannu o’u profiadau helaeth gan ysbrydoli’r myfyrwyr.

Y tri siaradwr gwadd yw :

  • Lowri Morgan - Y darlledwr, anturiaethwr ac awdur sydd wedi ennill BAFTA a chydnabyddiaeth ryngwladol
  • Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C gyda chyfrifoldeb golygyddol a strategol am Hansh
  • Llion Iwan - Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Da, sydd hefyd wedi treulio deng mlynedd gyda’r BBC, yn gynhyrchydd a cyfarwyddwr dogfennau ar gyfer BBC 1, 2, 4 a BBC Cymru.

Dogfennau a dolenni:

Lefel y Casgliad
Addysg Uwch, Ôl-16 a Galwedigaethol, UG/Safon Uwch
Perthyn i
Gwyddorau Chwaraeon, Astudiaethau Ffilm, Teledu a Chyfryngau, Drama ac Astudiaethau Perfformio
Trwydded
Cedwir Pob Hawl
Adnodd Coleg Cymraeg Cynhadledd
mân lun cynhadledd antur

Tanysgrifio/Creu cyfrif

Cwblhewch y wybodaeth isod er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd adnoddau newydd yn cael eu hychwanegu.