Cynhadledd yw hon ar gyfer pawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i gwrdd ag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio ag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
Galwad am Bapurau
Gwahoddwn bawb sydd â diddordeb i gynnig cyflwyniad byr neu boster ymchwil. Mae cyfle i chi gynnig un o'r canlynol:
- Cyflwyniad byw - disgwylir i gyflwyniadau byw fod yn 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau)
- Cyflwyniad wedi ei flaen-recordio - disgwylir i gyflwyniadau sy'n cael eu blaen-recordio fod yn 5 munud o hyd (gyda 5-10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau byw)
- Poster Ymchwil
Dylid cyfyngu cynigion i grynodeb o 300 gair. Anfonwch unrhyw gynigion ar gyfer papur/poster at l.mcgrath@colegcymraeg.ac.uk – erbyn Dydd Gwener, 16 Ebrill 2021.
COFRESTRU
Mae croeso i chi gofrestru ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil trwy gwblhau'r ffurflen gofrestru isod: