Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru' (2...
Mae'r erthygl hon yn trafod y gweithdrefnau cyfieithu a'r dechnoleg a ddefnyddir yn y Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr Undeb Ewropeaidd (Centre de Traduction, CDT). Bydd perthnasedd y llif gwaith a'r dechnoleg yn cael ei drafod yn fyr yng nghyd-destun cyfieithu Saesneg-Cymraeg-Saesneg yng Nghymru, gan gyfeirio'n benodol at Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 46-67.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa
Croeso i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd gan Dr Iwan Wyn Rees, Prifysgol Caerdydd. Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
E-lyfr newydd gan yr Athro Enlli Môn Thomas a Dr Peredur Webb-Davies o Brifysgol Bangor. Ac ystyried bod mwy o ieithoedd gwahanol nag o wledydd yn y byd, mae'n anochel bod ieithoedd yn dod i gysylltiad â'i gilydd mewn rhyw ffordd ac ar ryw adeg yn ystod eu bodolaeth. O ganlyniad, poblogaeth amlieithog ei naws yw'r rhan helaethaf o boblogaeth y byd. Er nad oes ffigyrau penodol (neu ddull casglu data digon ymarferol) yn nodi'r union ganran neu union nifer y siaradwyr uniaith a dwyieithog a geir, mae meddu ar ddwy neu fwy o ieithoedd yn ddarlun teg o'r 'norm' ieithyddol cyfredol ar gychwyn yr 21ain ganrif. O'r ychydig dros 6,000 o ieithoedd sy'n parhau i fodoli ledled y byd, prin bod unrhyw un wedi'i hynysu rhag pobloedd neu gymdeithasau ieithyddol eraill. Daw pob iaith bron i gysylltiad ag iaith arall, ond nid pawb sydd o'r farn fod hynny'n dda o beth! Bwriad y llyfr hwn yw eich cyflwyno i fyd y siaradwr dwyieithog, ac i herio nifer o fythau ynglÅ·n ag anfanteision - ac, yn wir, manteision - dwyieithrwydd. Y gobaith yw y bydd y darllenydd, o ddarllen y gyfrol hon, yn deall yn well natur ac anghenion unigolion sydd yn meddu ar sgiliau mewn dwy iaith.
Llawlyfr Technolegau Iaith
Mae’r llawlyfr hwn yn esbonio beth yw technolegau iaith ac yn ddisgrifio rhai o’r cydrannau mwyaf sylweddol yn ogystal â cheisio egluro’r dulliau a ddefnyddir i'w gwireddu. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer myfyrwyr, datblygwyr, academyddion, swyddogion polisi, ac eraill sydd heb gefndir yn y maes ond sydd eisiau deall mwy am feysydd pwysig prosesu iaith naturiol, deallusrwydd artiffisial, technoleg cyfieithu a thechnoleg lleferydd.
Mae'r llawlyfr hefyd ar gael ar wefan Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru.
Ysgrifennwyd gan swyddogion o Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, a Cymen Cyf gyda chymorth grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.