Casgliad o ysgrifau gan yr athronydd J. R. Jones yn trafod parhad yr iaith Gymraeg a hunaniaeth Gymreig yn wyneb Prydeiniad y gymdeithas, yr Arwisgiad a dadfeiliad crefydd.
Gwaedd yng Nghymru – J. R. Jones
Dinasyddiaeth Bur ac Areithiau Eraill – Henry Jones
Tair darlith a draddodwyd i chwarelwyr gogledd Cymru gan Syr Henry Jones ar droad yr ugeinfed ganrif, yn trafod hawliau'r gweithiwr a'i le mewn cymdeithas.
Chwaraeon yn y Gymdeithas – Dr Hywel Iorwerth a Dr Carwyn Jones
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Ysgol Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd wedi mynd ati i ddatblygu ystod o fodiwlau cyfrwng Cymraeg newydd. Yn wir, mae'r adran yn cynnig dros ddeg modiwl cyfrwng Cymraeg erbyn hyn, ac mae nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio'r modiwlau hynny yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond er bod y myfyrwyr yn derbyn eu darlithoedd i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg – a bod deunyddiau dysgu perthnasol wedi eu llunio i gyd-fynd â'r darlithoedd hynny – nid oes llawer o destunau darllen ychwanegol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd. Yn sgil hyn, mae'n rhaid i fyfyrwyr ddibynnu bron yn gyfan gwbl ar lyfrau ac erthyglau cyfrwng Saesneg wrth astudio eu pwnc y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn anad dim felly, mae cyhoeddi'r gyfrol hon yn ymateb i'r galw am destun academaidd cyfrwng Cymraeg cynhwysfawr ar gyfer defnydd myfyrwyr sy'n astudio chwaraeon mewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol.O ran hynny, mae'r llyfr hwn yn arddangos arwyddocâd cymdeithasegol ac athronyddol pellgyrhaeddol byd y campau, drwy esbonio bod chwaraeon yn gyfrwng gweladwy a phoblogaidd, sy'n gallu hybu ac atgyfnerthu gwerthoedd a chredoau cymdeithasol ar y naill law, neu herio a thrawsnewid y ffordd yr ydym ni'n ymwneud gyda'r byd sydd o'n cwmpas ar y llaw arall.Mae'r gyfrol wedi ei rhannu'n ddwy brif ran: cyflwynir y cysyniad o astudio chwaraeon mewn cyd-destun cymdeithasol ehangach yn y rhan gyntaf, a gan gyfeirio at lenyddiaeth academaidd berthnasol – sydd eisoes wedi ymdrin â rhai pynciau o fewn y maes – anogir y darllenwyr i feddwl fel cymdeithasegwyr. Athroniaeth chwaraeon yw ffocws ail ran y llyfr. Gan ganolbwyntio'n benodol ar foeseg, arddangosir pam bod angen mynd ati i edrych ar y maes hwnnw yng nghyd-destun byd y campau.Drwy fynd ati i astudio cymdeithaseg ac athroniaeth, y gobaith yw y gallwn ddeall mwy am y cymdeithasau yr ydym yn byw ynddynt, ac am arwyddocâd ehangach y modd yr ydym yn ymddwyn. Heb os – gan ei fod yn gyfrwng mor boblogaidd a gweledol – mae chwaraeon yn faes hollbwysig i'w astudio yn y cyd-destun hwn.Awduron Chwaraeon yn y Gymdeithas yw Dr Hywel Iorwerth a Dr Carwyn Jones (sydd, ill dau, yn darlithio yn Ysgol Chwaraeon arloesol a blaenllaw Met Caerdydd ar hyn o bryd), a chyhoeddir y gyfrol drwy gefnogaeth y Coleg Cymraeg ..
Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones am berthynas dirywiad addoli Cristnogol yng Nghymru â chrebachiad hunaniaeth y Cymry a'r iaith Gymraeg.
Bywyd Newydd: Rhoi Organau (2015)
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua 30 o bobl yn marw wrth aros am drawsblaniad organ, ond mae rheolau newydd wedi dod i rym yma a fydd yn golygu o bosib y daw mwy o organau ar gael. Yn y rhaglen hon cawn gwrdd â'r rhai sydd yn aros am drawsblaniad, y rhai sydd wedi cael, a'r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn cefnogi'r rhoddwyr a'r rhai sydd yn derbyn. Cawn wybod yn union sut beth yw byw ar y rhestr aros, a sut beth yw cael trawsblaniad - a'r cyfle am fywyd newydd. Cwmni Da, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Athronyddu am Grefydd – Dewi Z. Phillips
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
A Raid i'r Iaith ein Gwahanu – J. R. Jones
Araith o'r 1960au gan yr athronydd Cymreig J. R. Jones, am yr hollt rhwng y rhai sy'n siarad Cymraeg a'r di-Gymraeg yng Nghymru a sut mae cau'r bwlch heb danseilio'r iaith Gymraeg ei hun. Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol
Anufudd-dod Dinesig – Meredydd Evans
Darlith yn trafod amodau moesol gweithredu anghyfreithlon, neu anufudd-dod dinesig, dros yr iaith Gymraeg. Dyma Ddarlith Goffa J. R. Jones, 1993.
Areithiau Eisteddfod Aberafan – J. R. Jones (gol.)
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’?' (2016)
Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a'r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau'n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a'r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o'r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd. Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?' Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 48-65.
Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori' (2016)
Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o'r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy'n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i'r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau'r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi'r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef 'Y syniad o genedl' gan yr Athro J. R. Jones. Fe'i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu 'Tynged yr Iaith' gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy'n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae'n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae'n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis. Steven Edwards, 'Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 13-25.
Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg' (2014)
Yn yr erthygl hon, edrychir ar gymdeithasiaeth, sef set o syniadau gwleidyddol a ddatblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg (CYIG), sy'n codi o brofiad ymgyrchu'r gymdeithas. Prif amcan yr erthygl yw cloriannu cymdeithasiaeth, ac ystyrir y syniadaeth a'r berthynas rhwng y theori ac ymarfer gwleidyddol. Mae cymuned yn greiddiol i athroniaeth cymdeithasiaeth, ac yn yr erthygl hon ceisir ateb y cwestiwn; 'beth yw rôl cymuned a pherthnasedd gwleidyddol cymdeithasiaeth heddiw?' Dechreuir drwy edrych ar syniadaeth cymdeithasiaeth fel y datblygodd ochr yn ochr â phrofiad gweithredu CYIG. Yna edrychir ar y gymuned yng ngwleidyddiaeth Cymru fodern, ynghyd â natur a rôl datblygu cymunedol heddiw. Mae hyn yn gosod sail i'r drafodaeth sy'n dilyn ar gloriannu cymdeithasiaeth. Sel Williams, 'Cloriannu Cymdeithasiaeth: Syniadaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', Gwerddon, 17, Mawrth 2014, 41-57.