Ffilm ysgafn sydd wedi'i lleoli yn y Cymoedd. Mae'n adrodd hanes cynllun craff un dyn i wneud arian. Mae Trefor yn gaeth i'w fagwraeth dlawd yn un o gymoedd dirwasgedig Cymru. Pan fo sinema'r pentref yn cau mae'r taflunydd di-waith mewn cyfyngder ariannol. I oresgyn y broblem, benthyca Trefor arian oddi wrth Eli, ar yr amod y bydd yn talu am ei hangladd os bydd Eli yn marw cyn i Trefor ei had-dalu. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Termau Addysg Uwch
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu geiriadur ar-lein i fyfyrwyr a staff i hwyluso'r broses o astudio, addysgu ac ymchwilio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel prifysgol. Mae'r geiriadur yn cynnwys termau technegol o ystod eang o feysydd academaidd, gan gynnwys Bioleg, Cemeg, Chwaraeon, y Gyfraith, Daearyddiaeth, Hanes, Busnes, Seicoleg, Rheoli Coetiroedd, y Diwydiannau Creadigol a Mathemateg a Ffiseg. Caiff ei ehangu'n gyson i gynnwys mwy o dermau a mwy o feysydd pwnc, ac fe nodir i ba faes y mae pob term yn perthyn. Ceir diffiniadau gyda'r termau hyn, gan gynnwys weithiau diagramau, hafaliadau a lluniau i egluro'r term yn well. Yn y diffiniadau, ceir dolenni at dermau eraill cysylltiedig.
Rheolaeth Strategol
Mae'r sleidiau yma'n addas ar gyfer modiwl Rheolaeth Strategol, ar lefel 5/6. Maent yn cyflwyno'r prif offer ar gyfer dadansoddi sefydliadau yn fewnol ac yn allanol. Hefyd, maent yn cynnwys y prif themau sydd angen eu hystried er mwyn cynhyrchu opsiynau strategol addas i amrediad o sefydliadau. Datblygwyd y deunyddiau yma gan Sian Harris, darlithydd Rheolaeth a Busnes y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Tocyn Diwrnod: Breuddwyd Cymro mewn Dillad Benthyg (1990)
Daw hanes Cymru'n fyw yn y gyfres addysg boblogaidd hon a gafodd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan Theatr Gorllewin Morgannwg. Yng nghwmni pedwar actor ifanc, awn ar daith yn ôl i'r gorffennol i ddarganfod mwy am rai o gyfnodau a digwyddiadau pwysicaf ein hanes. Heddiw, cawn olrhain hanes milwyr o Gymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. ITV Cymru, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Doctoriaid Rhyfel (2001)
Yn ystod rhyfeloedd y bu’r datblygiadau mwyaf mewn meddygaeth. Mae'r gyfres hon yn dangos sut y datblygwyd triniaethau newydd i ddelio â dioddefwyr rhyfel. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Hedd Wyn (1992)
Barddoniaeth oedd angerdd mawr bywyd Ellis Evans, a'i uchelgais oedd ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Llwyddodd yn y man: yn Eisteddfod Birkenhead yn 1917 enillodd brif lawryf ei genedl - yn anffodus ni wyddai ddim byd am y peth. Lladdwyd ef ychydig ynghynt ar ei ddiwrnod cyntaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ypres. Pendefig, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Felin Bop [1945-1964] (1996)
Mae'r stori'n dechrau ym 1945 gyda chaneuon Jac a Wil, Bob Tai'r Felin a chyfansoddwyr fel Meredydd Evans ac Islwyn Ffowc Elis. Y rhain ac artistiaid a chyfansoddwyr tebyg a roddodd lais a bywyd newydd i 'hwyl' y Noson Lawen. Ceir cyfraniadau gan nifer o artistiaid a Shan Cothi sy'n adrodd y stori. Huw Brian Williams, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 2)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Arfordir Cymru (Llŷn)
Mae'r gyfres Arfordir Cymru yn dychwelyd wrth i Bedwyr Rees ddilyn llwybr arfordir Ll?n o Gaernarfon i Borthmadog ar drywydd enwau a hanesion yr ardal. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dirgelwch yr Ogof (2002)
Dwy ganrif yn ôl yn ne Ceredigion: lle yn llawn tlodi a smyglwyr. Mae mab stad y Glascoed, Harri, yn dychwelyd o'i deithiau tramor i ddarganfod fod y stad mewn trafferthion ariannol a bod disgwyl iddo ef briodi merch gyfoethog leol. Ffilm yn llawn antur a rhamant wedi'i haddasu o glasur T. Llew Jones, gyda Huw Rhys, Lowri Steffan a Mali Harries. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 1)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Y Dyn Perig (1990)
Mae'r ffrae rhwng Buddug a'i thad yn poethi, i'r fath raddau ei bod yn byw ar fferm ei hewythr, ac yn poeni am ei mam a chyflwr y tir. Mae angen gwaith caled ac arian i redeg y ddwy fferm yn effeithiol a nid gosod tir i ryw gwmni ffilm uffar! Ffilmiau Bryngwyn, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
