Deunyddiau darlith cyflawn ar gyfer cwrs rhan dau, Theori ac Ymarfer Daearyddiaeth.
Gwaith Theori ac Arfer Cymraeg
Yr Ymadawiad (2015)
Gyda'i hymdeimlad cynyddol o arswyd, mae hon yn felodrama oriog, feistrolgar gyda throad angheuol. Pan mae'r pâr ifanc ar ffo, Sara ac Iwan, yn gyrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn encilgar. Wedi ei ffilmio ger Tregaron, mae'r byd maent yn rhan ohono yn llaith ac yn lawog. Yn anochel mae'r cariadon ifanc yn torri ar draws bodolaeth unig Stanley. Ond mae'n eu helpu gyda chymysgedd stoicaidd o ewyllys dda addfwyn ac amynedd, nes bod cyfrinachau'n cael eu datgelu ac mae'r tymheredd yn codi. Severn Screen, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prydeindod – J. R. Jones
Trafodaeth gan yr athronydd J. R. Jones am hunaniaeth y Cymry Cymraeg a'u perthynas â Phrydain a Phrydeindod.
T. Llew Jones (2015)
Mae T. Llew Jones yn gyfarwydd i'r rhan fwyaf ohonom fel awdur a bardd plant. Swynodd genedlaethau gyda'i straeon am Barti Ddu, Twm Siôn Cati a Siôn Cwilt ac roedd hefyd yn brifardd a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith o'r bron. Yn y rhaglen yma gyda Beti George, down i 'nabod y dyn y tu ôl i'r ffigwr cyhoeddus fel tad, athro a dyn creadigol. Silin, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Prosiect y Plygain (2009)
Prosiect diweddaraf Rhys Mwyn, y rheolwr cerddorol a'r cyn bync, sy'n mynd ag o yn ôl i'w wreiddiau yn Sir Drefaldwyn wrth iddo edrych ar yr hen draddodiad o ganu carolau Plygain. Ei fwriad yw trefnu noson Blygain fodern gyda cherddorion gwerin cyfoes Cymraeg. Sut groeso gaiff syniad Rhys o foderneiddio'r hen draddodiad, ac a bydd o'n medru llwyfannu ei noson? Cwmni Da, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Swyddogaeth Beirniadaeth – John Gwilym Jones
Darlith John Gwilym Jones ar bwysigrwydd beirniadaeth lenyddol, a'i harwyddocâd drwy hanes yng Nghymru a thu hwnt.
Priodas Gwen (1992)
Mae'r paratoi drosodd, mwy neu lai, a'r diwrnod mawr wedi cyrraedd. Faint o obaith sydd i'r par ifanc gael priodas dda yn wyneb tystiolaeth yr oes sydd ohoni? Ffilmiau Bryngwyn, 1992. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Modiwl Dehongli'r Gorffennol (HCG2011)
Cyflwyniadau i gyd-fynd gyda'r modiwl prifysgol Dehongli'r Gorffennol (HCG2011). Bydd angen mewngofnodi i gael mynediad i'r cyflwyniadau isod. Rhestr y cyflwyniadau: Cyflwyniad i Hanes Marcsaidd (Yr Athro Gareth Williams) Cyfraniad Keith Thomas (Yr Athro Gareth Williams) Datblygiadau a phroblemau gyda dehongliadau Marcsaidd, a cyfraniadau Christopher Hill a Raymond Williams (Yr Athro Gareth Williams) Dehongliadau Marcsaidd o Galileo a William Harvey (Yr Athro Gareth Williams) Cymdeithas a diwylliant yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed Ganrif (Yr Athro Gareth Williams) Ysgrifennu Hanes Cymru (Dr John Davies) Hanes Marcsiadd (Dr Martin Wright) Ysgrifennu Hanes Cymru (Yr Athro Prys Morgan)
Gwrthwynebwyr y Rhyfel Mawr (2014)
Hanes pedwar gwrthwynebydd cydwybodol o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwas ffarm o Laneilian Ynys Môn oedd Percy Ogwen Jones. Mae ei hanes yn cael ei adrodd gan ei fab, Geraint Percy, yn Ysgol Penysarn. Ar ôl wynebu sawl tribiwnlys cafodd Percy ei arestio a'i ddanfon i Faracs Wrecsam ac yna i Kinmel. Mae Dr Jen Llywelyn wedi ymchwilio i fywyd yr heddychwr George M. Ll. Davies. Yn Aberdaron clywn hanes carchariad George am bregethu yn erbyn rhyfel a'r effaith andwyol a gafodd hyn ar ei iechyd. Aeth Gwenallt i guddio gyda pherthnasau iddo ger Rhydcymerau a Llandeilo i drio osgoi cael ei garcharu. Dr Christine James sydd yn sôn am y cyfnod hwn ym mywyd y bardd ym mro ei febyd: Pontardawe ac Alltwen. Gwrthododd Ithel Davies wneud unrhyw waith fyddai'n helpu'r rhyfel yn ystod ei garchariad. Yng Nghwmtudu mae aelod o'i deulu, Jon Meirion Jones, yn sôn am y driniaeth lem a ddioddefodd Ithel oherwydd ei ddaliadau. Mae'r hanesydd Aled Eirug yn siarad am y broses a wynebai'r gwrthwynebwyr cydwybodol, y tribiwnlysoedd, carcharu, cynllun y Swyddfa Gartref yn Dartmoor a chynghrair y Bluen Wen. Boom Cymru, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Alwad (1988)
Athrawes ifanc sydd wedi penderfynu protestio yn gwrthdaro yn erbyn cyfraith a threfn yn feunyddiol. Pan aflonyddir arni gan fygythiadau treisiol at bwy all hi droi? Ym mhwy all hi ymddiried? Lle mae tynnu'r llinell rhwng erlid a gwarchod? Gyda Betsan Llwyd a Meic Povey. Ffilmiau Bryngwyn, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Ben a Hollie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae Ben yn 'sgrifennu blog ar ei wefan er mwyn rhannu ei brofiad o fod â chwaer awtistig. Mae her fawr yn ei wynebu fe a'i chwaer wrth iddyn nhw helpu i drefnu cyngerdd arbennig i godi arian tuag at awtistiaeth. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Yr Alltud (1989)
Mai 1945, ac mae'r rhyfel drosodd o'r diwedd. Mae gwraig weddw, iarlles o'r Almaen, wedi cael hyd i loches yn ogledd Cymru. Un o'i ffrindiau pennaf yw merch y gweinidog lleol - perthynas sydd yn ei atgoffa o'i phlentyndod, ond sydd hefyd yn dod yn ôl â theimladau o euogrwydd. Ffilmiau Bryngwyn, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
