Croeso i Gynhadledd Ymchwil rithiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Yma cewch fynediad i bopeth sy’n ymwneud a’r Gynhadledd: Mae dwy ran i’r gynhadledd: 1. Cyflwynir 4 papur byw ar 1 Gorffennaf (10:00-12:30) - bydd recordiadau'r gynhadledd yn cael eu hychwnegu isod yn fuan. 2. Yn ogystal â’r cyflwyniadau byw y byddwch chi’n eu gweld ar 1 Gorffennaf, mae 13 o fyfyrwyr ymchwil ac academyddion Cymraeg wedi mynd ati i recordio cyflwyniadau ymlaen llaw. Isod, cewch fynediad at y cyfan a gofynnwn i chi eu gwylio a’u mwynhau yn eich amser eich hun cyn y Gynhadledd. Ewch ati i baratoi cwestiynau os gwelwch yn dda! Bydd cyfle i chi holi eich cwestiwn rhwng 2 a 3:30 ar 1 Gorffennaf. Gofynnwn i chi gyflwyno eich cwestiynau ar Twitter trwy ddefnyddio #cynhadleddymchwil20 ac mae cyfrifon Twitter y cyfranwyr i’w gweld wrth i chi edrych ar y cyflwyniadau. Os nad ydych chi’n defnyddio Twitter, holwch eich cwestiynau yn y blwch perthnasol sydd i’w weld o dan bob cyflwyniad. Mwynhewch a chyfrannwch!
Cynhadledd Ymchwil Rithiol 2020
Gweithdy Prezi gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi. Beth yw Prezi? Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw. Cynnwys y sesiwn Beth yw Prezi? Rhagflas Prezi Hyfforddiant Prezi Manteision Prezi
Gweithdy Socrative gan Dyddgu Hywel
Mae’r gweithdy hwn gan Dyddgu Hywel, darlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r ap Socrative gyda’ch myfyrwyr yn y dosbarth, mewn darlith neu seminar. Beth yw Socrative? Yr ap angenrheidiol mewn dosbarth ar gyfer hwyl, ymgysylltiad effeithiol ac asesu ar gyfer dysgu. Cynnwys y sesiwn Beth yw Socrative? Rhagflas Socrative Hyfforddiant Socrative Manteision Socrative
Tystysgrif Sgiliau Iaith - Adnoddau Cefnogol
Dyma becyn adnoddau cefnogol y Dystysgrif Sgiliau Iaith. Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth am y Dystysgrif, adnoddau dysgu cefnogol, fideos enghreifftiol ac hen bapurau. Pwrpas yr adnoddau yw cynorthwyo ymgeiswyr y Dystysgrif Sgiliau Iaith i baratoi ar gyfer eu hasesiadau. Ond, maent ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn addas i unrhyw un sydd am wella ei sgiliau iaith Gymraeg. Mae'r adnoddau yn cynnwys gwybodaeth a thasgau ymarfer am y canlynol: Amserau'r Ferf Yr Arddodiaid Personau'r Ferf Rhagenwau Cywair Iaith Treiglo Sillafu Gwallau Cyffredin Osgoi Ymadroddion Saesneg
Chwe Cham i Ddoethuriaeth Lwyddiannus gan Dr Leila Griffiths
Mae’r adnodd hwn wedi’i anelu at y sawl sy’n newydd i astudiaethau ôl-raddedig ac mae’n canolbwyntio ar ddysgu gweithredol, cyfeirnodi a datblygu sgiliau ymchwilio, meddwl, darllen ac ysgrifennu beirniadol. Mae'n cynnwys cyfres o weithdai byrion (15 munud o hyd) yn cylchdroi o amgylch ‘Cwblhau traethodau hir yn effeithiol’