Bwriad yr ymchwil hwn oedd ceisio dod i ddeall natur y perygl sy’n gysylltiedig ag arferion gamblo myfyrwyr sy’n cystadlu mewn chwaraeon. Mae’r myfyrwyr hyn, fel pawb arall, yn agored i’r peryglon amlwg sy’n gysylltiedig â gamblo, ond hefyd yn gorfod dilyn rheolau uniondeb gamblo (gambling integrity rules) sy’n cyfyngu ar eu hymddygiad gamblo. Drwy ddefnyddio grwpiau ffocws gyda myfyrwyr chwaraeon – aelodau o dimau rygbi a phêl-droed (bechgyn a merched) – darganfuwyd bod gamblo yn arfer cyffredin. Yn bwysicach na hynny, darganfuwyd bod diffyg dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglŷn â natur a symptomau dibyniaeth a’r broses o golli rheolaeth. Yn ogystal, gwelwyd nad oedd myfyrwyr yn cymryd y rheolau gamblo o ddifri a bod rhai yn torri’r rheolau.
Carwyn Jones, Meilyr Jones, Daisie Mayes, 'Adnabod y peryglon – dadansoddiad cychwynnol o gamblo ymysg myfyrwy...
Cennydd Owen Jones, 'Adolygiad o Ffynonellau AmgylcheddolTwbercwlosis Buchol (Mycobacterium bovis)' (2021)
Mae twbercwlosis buchol (bovine tuberculosis; bTB) yn un o brif heriau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am ddifa 10,974 o wartheg rhwng Mehefin 2019 a Mai 2020 (DEFRA, 2020). Amcangyfrifir cost flynyddol i’r trethdalwr o £15 miliwn yng Nghymru yn unig i reoli’r clefyd sydd yn cynnwys costau milfeddygol, iawndal i’r ffermwyr, costau gweinyddol, ac ati. Yn ogystal â hyn, mae delio â’r clefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl yr holl unigolion sydd ynghlwm ag ef. Mae’r cyswllt rhwng bywyd gwyllt a thwbercwlosis buchol yn amlwg yn bwnc llosg parhaol, ond beth am y rôl y mae’r amgylchedd yn ei chwarae o ran meithrin a lledaenu’r clefyd hwn? Mae rhai gwyddonwyr wedi ymchwilio i’r cwestiwn hwn gan lwyddo i brofi ar lefel labordy bod yr amodau sydd yn bresennol yn amgylchedd y fuwch yn rhai ffafriol i M. bovis. Serch hynny, prin yw’r ymchwil ar lefel fferm, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn dioddef achosion cronig o dwbercwlosis buchol. Diben yr adolygiad llenyddiaeth hwn yw amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a’r wyddoniaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd parthed TB buchol amgylcheddol.
Jerry Hunter, 'Perthnasedd Poen ac Undonedd: Kate Roberts a Ffuglen y 1930au' (2021)
Mae’r erthygl hon yn ystyried datblygiad ffuglen Gymraeg yn y 1930au, a hynny trwy archwilio gwahanol syniadau ynglŷn â natur realaeth. Mae craffu ar ohebiaeth Saunders Lewis a Kate Roberts yn fodd i ddadansoddi’r modd y syniai’r ddau lenor am hanfodion estheteg realaidd. Trafodir ymateb Saunders Lewis i ddrafft cyntaf y nofel Traed mewn Cyffion ac awgrym Kate Roberts wrth amddiffyn hanfod y gwaith fod ‘poen ac undonedd’ yn berthnasol yn y 1930au ac yn themâu llenyddol dilys. Awgrymir bod apêl Kate at waith y nofelydd Gwyddelig, Peadar O’Donnell, yn bwysig er mwyn deall ei hestheteg hi. Edrychir wedyn ar y berthynas rhwng Traed mewn Cyffion ac un o nofelau O’Donnell, Islanders.
Charlotte Greenway ac Alison Rees Edwards, 'Agweddau Athrawon tuag at ADCG: Adolygiad ac Argymhellion ar gyfer...
Gwelwyd cynnydd sylweddol yn y cyfraddau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG) mewn dosbarthiadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mewn llenyddiaeth, cydnabyddir arwyddocâd agweddau athrawon tuag at ADCG wrth iddynt wneud penderfyniadau am atgyfeirio ac ymyrraeth (Anderson et al., 2012) a sut y mae eu hagweddau’n effeithio ar ymddygiad a chanlyniadau disgyblion (Rush a Harrison 2008). Mae angen i athrawon ddarparu cefnogaeth i’r plant hyn ond, yn aml, maent yn teimlo’n amwys tuag at ADCG oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol (Alkahtani 2013), gwybodaeth anghyson ynghylch yr anhwylder (Dryer, Kiernan a Tyson 2013), gwahanol ddisgwyliadau diwylliannol (Moon 2012) a systemau addysgol (Timimi a Radcliffe 2005). Mae’r papur hwn yn darparu adolygiad o’r llenyddiaeth ynghylch agweddau athrawon tuag at ADCG, yn archwilio’r cyfyngiadau yn y llenyddiaeth gyfredol a’r pryderon ynghylch mesur agweddau athrawon tuag at ADCG. Mae’r papur yn gorffen gydag argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Einion Dafydd, 'Yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Undeb Ewropeaidd: Crefydd a Llywodraethiant yn yr Unfed Ganrif...
Mae’r astudiaeth hon yn ystyried sut y mae’r Eglwys Gatholig Rufeinig a’r gymuned Gatholig ehangach yn ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Amlinella ffurf sefydliadol a threfniadaethol y prif gyrff Catholig sy’n weithredol ym Mrwsel, a dengys sut y maent yn ymwneud â phrosesau polisi’r UE. Seilir y gwaith dadansoddi ar gorff o gyfweliadau gwreiddiol a gynhaliwyd ag ymarferwyr. Dengys fod y berthynas rhwng y gymuned Gatholig a’r UE yn gweithredu ar dair lefel – lefel ddiplomyddol, lefel led ffurfiol a sefydliadol, a lefel anffurfiol – a bod yn rhaid cadw golwg ar y tair lefel er mwyn cael darlun clir o’r modd y gweithreda’r gymuned Gatholig mewn perthynas â’r UE. Cyflwynir tair set o oblygiadau sy’n datblygu dealltwriaeth o rôl crefydd mewn llywodraethiant cyfoes.