Bydd dyn wedi croesi'r hanner-cant yn gweld yn lled glir y bobol a'r cynefin a foldiodd 'i fywyd e...' Drama-ddogfen gan T. James Jones a Dylan Richards gydag Aneirin Hughes fel Carwyn James yn ei ddyddiau olaf, unig yn Amsterdam, gan wynebu marwolaeth gynnar ac yn edrych yn ôl dros fywyd o fuddugoliaethau a siom. Roedd ei lwyddiant ym myd 'macho' rygbi - gan drechu'r Crysau Duon gyda'r Llewod a Llanelli - yn dod â phris uchel o ddolur y meddwl a'r corff. Bydd chwaraewyr megis Barry John a John Dawes, cyfeillion a chyd-weithwyr agos, a'i frawd Dewi yn cyfrannu at ddarlun cyflawn o un o gewri'r gêm, gwladgarwr diwylliedig ac enaid mawr, bregus yn ddiodde i'r eithaf. Green Bay Media, 2009. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
A55 (Cyfres 1)
Cyfres ddrama yn dilyn hanes cwmni lorïau GMJ. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Caradoc Evans: Ffrae My People (2015)
Yn 1915 cyhoeddwyd cyfrol o straeon byrion yng Nghymru greodd storm o atgasedd yn erbyn yr awdur a'i waith. Roedd byd tywyll Caradoc Evans yn 'My People' yn ddarlun hunllefus ac heriol o fywyd y capeli a'r gymdeithas Gymraeg wledig. Gorchmynodd Prif Gwnstabl Caerdydd i gopiau o'r llyfr gael eu llosgi'n gyhoeddus. Disgrifiodd y 'Western Mail' y straeon fel 'the literature of the sewer' gan ddweud mai Caradoc oedd '...the best-hated man in Wales'. Ni welwyd y fath gasineb ym myd y celfyddydau yng Nghymru - gynt nac wedyn. Ond erbyn heddiw prin ydy'r bobl sy'n cofio'r straeon na'u hawdur a gorddodd y dyfroedd yng Nghymru. Gan mlynedd yn ddiweddarach bydd Beti George yn mynd ar drywydd Caradoc Evans gan rannu blas o'i straeon gothic. Bydd yn olrhain ei ddylanwad pellgyrhaeddol ar ysgrifennu Saesneg yng Nghymru ac yn holi beth yn ei fagwraeth yn Rhydlewis, yn ne Ceredigion, a yrrodd Caradoc i greu byd sinistr 'My People'? Gorilla, 2015. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Myfi, Iolo Morgannwg (1987)
Rhaglen ddrama dogfen yn olrhain hanes bywyd Iolo Morgannwg. Iolo Morgannwg, neu Edward Williams oedd un o feirdd ac ysgolheigion mwyaf Cymru. Roedd e' hefyd yn dwyllwr. Adlewyrchir ei gymeriad unigryw yn y ddrama ddogfen wreiddiol hon lle mae Dafydd Hywel yn chwarae rhan Iolo Morgannwg ac yn ail fyw rhai o ddigwyddiadau clasurol ei fywyd: llywio llong hwylio ym Mor Hafren, cael ei luchio allan o'r Llyfrgell Brydeinig yn Llundain a chael ei gloi yng Ngharchar Caerdydd. Drwy'r cyfan mae'r cyflwynydd, yr Athro Gwyn Alf Williams, yn dilyn pob symudiad o'i eiddo, ac yn y diwedd, yn yr Eglwys lle gorwedd gweddillion Iolo, maen nhw'n dod wyneb yn wyneb. Teliesyn, 1987. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Portreadau (1994-1998)
Portreadau o rai o lenorion amlycaf Cymru. Ffilmiau'r Bont, 1994-98. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Min Nos o Ragfyr: Llywelyn Ein Llyw Olaf (1982)
Saith can mlynedd i'r diwrnod y lladdwyd Llywelyn ein Llyw Olaf, ym Min Nos o Ragfyr, trwy gymorth gohebwyr a thechnoleg yr ugeinfed ganrif, yn ogystal ag actorion, cawn olwg ar yr hyn a arweiniodd at y diwrnod hwnnw yng Nghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282. Mae'r ddrama dogfen yn dechrau yn Nhrefaldwyn ym 1267 lle y rhoddwyd yr hawl swyddogol am y tro cyntaf i Tywysog Cymru ei alw ei hun yn Dywysog Cymru. Gan Manon Eames ac Emyr Daniel. ITV Cymru, 1982. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cameleon (1996)
Ffilm gan Ceri Sherlock sy'n adrodd hanes ffoadur o'r Ail Ryfel Byd sy'n dianc rhag erchylldra'r rhyfel yn ôl i'w gynefin. Mae'r ffilm yn ymdreiddio i isymwybod y ffoadur ac yn portreadu clawstroffobia ac ofn y cymeriad wrth iddo ymdopi a byw mewn caethiwed cwbl wahanol i'r hyn y dihangodd oddi wrtho. Elidir, 1996. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Milwr Bychan (1987)
Ffilm rymus wedi ei lleoli yng Ngogledd Iwerddon ac wedi ei chyfarwyddo gan Karl Francis. Richard Lynch sy'n chwarae rhan Private William Thomas, sy'n cael ei gyhuddo o lofruddiaeth gan lywodraeth sydd eisiau cadw'r achos dan glo. Gyda Dafydd Hywel a Bernard Latham. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Philip Jones Griffiths: Ffotograffydd Rhyfel Fietnam (2016)
Hanner canrif yn ôl, ym 1966, aeth y ffotograffydd o Ruddlan, Philip Jones Griffiths, i Fietnam am y tro cyntaf. Byddai'r profiad yn llywio ei yrfa. Tynnodd Griffiths luniau dirdynnol o effaith ddinistriol rhyfel, nid yn unig ar Fietnamiaid diniwed, ond hefyd ar y milwyr. Newidiodd ei lyfr o luniau du a gwyn, VIETNAM INC. ym 1971, ein dealltwriaeth am byth o'r gwrthdaro gwaedlyd. Gyda chyfweliadau gan y rhai oedd agosaf ato; teulu a ffrindiau a chyd-weithwyr yn cynnwys John Pilger, Don McCullin a'r Athro Noam Chomsky, mae'r rhaglen ddogfen arbennig hon yn bwrw golwg ar fywyd y dyngarwr, a'r etifeddiaeth a adawodd ar ei ôl. Yn glasuron y byd ffotonewyddiaduraeth, mae ei luniau mor bwerus heddiw ag erioed. Rondo, 2016. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
3 Lle - Ifan Huw Dafydd (2010)
Yr actor Ifan Huw Dafydd, sydd yn ein tywys i dri lle sydd wedi bod yn bwysig yn ei fywyd. Y cyntaf yw bwthyn ei fam-gu a'i dad-cu, Tŷ Poeth ger Llandysul; yr ail le yw Clwyd Theatr Cymru a'r trydydd dewis yw ardal Coedwig Mametz yn Ffrainc, lleoliad brwydr fawr yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Apollo, 2010. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Pethe Hwyrach (2011)
Cyfres yn trafod diwylliant a chelfyddydau Cymru. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
#Fi: Jodie (2013)
Cyfres ddogfen i bobl ifanc. Mae bywyd Jodie Williams yn un prysur iawn. Nid yn unig mae hi'n ofalwr ifanc yn edrych ar ôl ei mam, ond mae hi hefyd yn gwneud tipyn o waith elusennol. Dilynwn Jodie ar adeg prysur yn ei bywyd wrth iddi drefnu digwyddiad elusennol yn yr ysgol a chael cyfle i fynd i premier ffilm go arbennig. Boom Cymru, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
