Mae’r rheolau sy’n pennu treigladau a ffurfiau enwau ac ansoddeiriau ar ôl rhifolion mewn Cymraeg Canol yn aml yn peri dryswch i ddarllenwyr cyfoes. Mae’r erthygl hon yn braslunio’r rheolau a rhoi dadansoddiad synchronig ohonynt. Dangosir eu bod yn seiliedig ar system gydlynol lle mae rhif (unigol, deuol, rhifol, lluosog) yn ganolog. Gellir cofnodi a dyddio’r newidiadau ieithyddol sydd wedi digwydd ers hynny yn fanwl drwy ddefnyddio tystiolaeth destunol. Dadleuir y gellir deall y newidiadau hyn fel camau ar hyd llwybr tuag at system newydd, yr un mor gydlynol â’i rhagflaenydd, lle y mae pob ymadrodd rhifol yn ramadegol unigol, a chenedl yn hytrach na rhif sy’n penderfynu ffurf a threigladau ill dau.
David Willis, 'Datblygiad cystrawen y rhifolion yn y Gymraeg' (2019)
Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg' (2007)
Mae ymchwil ynghylch caffael cenedl ramadegol wedi dangos, mewn nifer o ieithoedd, fod plant yn cael meistrolaeth ar genedl yn gynnar. Yn aml, yn yr ieithoedd hyn, mae marcio cenedl yn eithaf amlwg ac mae'n cynnig cyfatebiaeth un-i-un glir rhwng marciwr a'r genedl a godiwyd. Yn y Gymraeg, fodd bynnag, mae marcio cenedl yn fwy cymhleth. Mae'n cael ei marcio drwy dreigladau, sef cyfres o newidiadau morffo- ffonolegol sy'n effeithio ar gytseiniaid cyntaf geiriau, ac mae'r mapio rhwng treiglad a chenedl yn eithaf anhryloyw. Defnyddir dau fath o dreiglad i farcio cenedl fenywaidd: mae enwau benywaidd yn cael eu newid gan y fannod benodol ac mae ansoddeiriau sy'n dilyn enwau benywaidd yn cael eu treiglo'n feddal, ac mae cenedl fenywaidd yr ansoddair meddiannol 'ei' yn cael ei marcio drwy dreiglo'r enw a newidir yn llaes. Mae'r papur hwn yn cyflwyno dwy astudiaeth sy'n archwilio meistrolaeth gynhyrchiol plant ac oedolion ar genedl fel y'i mynegir drwy dreiglo enwau a newidir gan y fannod benodol, ac ansoddeiriau yn newid enwau. Gwahoddwyd plant, rhwng 4½ a 9 oed, ac oedolion i gymryd rhan yn yr astudiaethau. Yn gyntaf, cynhaliwyd astudiaeth led-naturiolaidd i gael gwybodaeth am ddefnydd y siaradwyr o farcio cenedl. Yna, defnyddiwyd gweithdrefn Cloze i gymell y siaradwyr i greu ffurfiau gwrywaidd a benywaidd, gyda geiriau go iawn a ffurfiau disynnwyr, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ieithyddol. Roedd rhai o'r cyd-destunau hyn yn rhoi awgrym o statws cenedl, ond nid oedd rhai eraill. Roedd y data a gafwyd yn dangos bod caffael y system genedl Gymraeg yn broses hirfaith, ac nad yw plant wedi meistroli'r system hyd yn oed erbyn 9 oed. Mae siaradwyr Cymraeg, hyd yn oed pan maent yn oedolion, yn rhoi ychydig o sylw, neu ddim, i'r awgrymiadau posibl sy'n bresennol yn y mewnbwn. Mae'r canlyniadau yn awgrymu, pan fo gan iaith system genedl gymhleth sydd wedi'i marcio gan brosesau morffo-ffonolegol anhryloyw, fod y cwrs datblygu yn faith ac yn amrywiol. Enlli Thomas, 'Natur prosesau caffael iaith gan blant: Marcio cenedl enwau yn y Gymraeg', Gwerddon, 1, Ebrill 2007, 53-81.
Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru' (2...
Mae'r erthygl hon yn trafod y gweithdrefnau cyfieithu a'r dechnoleg a ddefnyddir yn y Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr Undeb Ewropeaidd (Centre de Traduction, CDT). Bydd perthnasedd y llif gwaith a'r dechnoleg yn cael ei drafod yn fyr yng nghyd-destun cyfieithu Saesneg-Cymraeg-Saesneg yng Nghymru, gan gyfeirio'n benodol at Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu'r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a'u perthnasedd i Gymru', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 46-67.
Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa
Croeso i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd gan Dr Iwan Wyn Rees, Prifysgol Caerdydd. Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Agweddau ar Ddwyieithrwydd
E-lyfr newydd gan yr Athro Enlli Môn Thomas a Dr Peredur Webb-Davies o Brifysgol Bangor. Ac ystyried bod mwy o ieithoedd gwahanol nag o wledydd yn y byd, mae'n anochel bod ieithoedd yn dod i gysylltiad â'i gilydd mewn rhyw ffordd ac ar ryw adeg yn ystod eu bodolaeth. O ganlyniad, poblogaeth amlieithog ei naws yw'r rhan helaethaf o boblogaeth y byd. Er nad oes ffigyrau penodol (neu ddull casglu data digon ymarferol) yn nodi'r union ganran neu union nifer y siaradwyr uniaith a dwyieithog a geir, mae meddu ar ddwy neu fwy o ieithoedd yn ddarlun teg o'r 'norm' ieithyddol cyfredol ar gychwyn yr 21ain ganrif. O'r ychydig dros 6,000 o ieithoedd sy'n parhau i fodoli ledled y byd, prin bod unrhyw un wedi'i hynysu rhag pobloedd neu gymdeithasau ieithyddol eraill. Daw pob iaith bron i gysylltiad ag iaith arall, ond nid pawb sydd o'r farn fod hynny'n dda o beth! Bwriad y llyfr hwn yw eich cyflwyno i fyd y siaradwr dwyieithog, ac i herio nifer o fythau ynglÅ·n ag anfanteision - ac, yn wir, manteision - dwyieithrwydd. Y gobaith yw y bydd y darllenydd, o ddarllen y gyfrol hon, yn deall yn well natur ac anghenion unigolion sydd yn meddu ar sgiliau mewn dwy iaith.