Mae'r papur yn adrodd ar dri chyfnod o godi pontydd yng Nghymru. Roedd y cyfnod cyntaf, o amser y Rhufeiniaid hyd at ddechrau'r Chwyldro Diwydiannol, wedi'i ddominyddu gan y defnydd o ddeunyddiau lleol (carreg a phren) gan grefftwyr lleol. Roedd yr ail gyfnod yn rhan annatod o'r Chwyldro Diwydiannol, pan gafodd deunyddiau newydd ar gyfer codi pontydd (haearn bwrw, haearn gyr a dur) eu datblygu a'u defnyddio wrth adeiladu pontydd camlas a rheilffordd. Roedd y trydydd cyfnod yn gysylltiedig â thwf traffig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, pan ddaeth concrid a dur yn brif ddeunyddiau ar gyfer codi pontydd yn ystod datblygiad y cefnffyrdd a'r traffyrdd. Mae'r papur yn dangos, mewn termau syml, y datblygiadau sylfaenol o ran peirianneg adeiladu a oedd yn sail i'r datblygiadau hyn wrth i ddeunyddiau newydd ddod ar gael i godi pontydd. Yn benodol, trafodir datblygiad croestoriadau trawst, tiwbiau a chyplau amrywiol. Hefyd, rhoddir sylw i gyfraniad sylweddol pedwar codwr pontydd sy'n enwog dros y byd: William Edwards a gododd y bont fwa enwog ym Mhontypridd; Thomas Telford a gododd Ddyfrbont Pontcysyllte a Phont Grog Menai; Robert Stephenson a gododd bontydd tiwb yng Nghonwy a dros y Fenai; ac I. K. Brunel a gododd Bont Reilffordd unigryw Cas-gwent a'r draphont reilffordd bren yng Ngland?r, Abertawe. Yn olaf, mae'r papur yn tynnu sylw at rai o bontydd unigryw Cymru. Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru', Gwerddon, 3, Mai 2008, 11-35.
Ben Barr, 'Codi pontydd Cymru' (2008)
Oes yn y Wladfa (1985)
Sgwrs ag Elias Garmon Owen a dreuliodd dri chwarter canfrif ym Mhatagonia, a chyfle i rannu rhai o'i brofiadau yno ac yn Nyffryn Conwy ei ieuenctid. ITV Cymru, 1985. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau ‘Cymreig’?' (2016)
Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a'r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau'n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a'r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o'r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd. Carys Moseley, 'Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?' Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 48-65.
Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?' (2017)
Roedd Syr Siôn Prys (1501/~1555), o Aberhonddu, ymhlith y mwyaf dylanwadol o weision y Goron yng Nghymru a'r Gororau mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol a chrefyddol mawr. Roedd hefyd yn un o'r Cymry cyntaf i ymateb yn gadarnhaol i rai o'r pwysleisiau diwylliannol a deallusol newydd a gysylltid â'r Dadeni Dysg. Yn yr ysgrif hon trafodir y tensiwn rhwng, ar y naill law, ei ddysg a'i safbwynt dyneiddiol ac, ar y llaw arall, ei ymlyniad wrth y fersiwn o hanes Prydain a gyflwynid yng ngwaith Sieffre o Fynwy (12g.) ac y gwrthodwyd bron y cyfan ohono gan yr Eidalwr Polidor Vergil mewn llyfr a gyhoeddwyd gyntaf yn y 1530au. Ceri Davies, 'Syr Siôn Prys: Canoloeswr ynteu Dyneiddiwr?', Gwerddon, 24, Awst 2017, 8-21.
Cerys Jones et al., 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru' (2010)
Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi'r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi'i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy'n amrywio drwy'r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o 'ddiffeithwch gwyrdd' yr ucheldir i'r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae'r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a'r tywydd. Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Coffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru – seminar gyda'r Athro Syr Deian Hopkin
Yr Athro Syr Deian Hopkin yn siarad â myfyrwyr ar 20 Mawrth 2014 ynglŷn â sut i goffáu’r Rhyfel Mawr yng Nghymru yn ystod canmlwyddiant dechrau'r rhyfel.
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Cyflwyniad yr Athro Gareth Williams ar ysgrifau sydd wedi dylanwadu arno
Mae'r Athro Gareth Williams yn hanesydd disglair, yn arbenigo ar ddiwylliant poblogaidd yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif. Mae bellach yn Athro Emeritws Prifysgol De Cymru. Yma, mewn darlith a draddododd ym Mhrifysgol Abertawe ar 17 Ebrill 2013, mae'n trafod pa ysgrifau sydd wedi dylanwadu ar ei yrfa.
Cyfraith Hywel Dda
Dyma'r man cychwyn ar gyfer darganfod mwy am Gyfraith Hywel neu system gyfreithiol Cymru yn yr oesoedd canol. Ariannwyd datblygiad y wefan gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Siân Edwards, 'Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos' (2013)
Mae'r erthygl hon yn dadansoddi ymweliad i Sbaen y Cadfridog Franco gan Gôr y Rhos, ar wahoddiad un o fudiadau Franco Educación y Descanso (Addysg a Hamdden). Yn y lle cyntaf, bu tipyn o drafod yn y wasg yn lleol am egwyddorion teithio i wlad a oedd, bryd hynny, wedi ei heithrio o'r gymuned ryngwladol. Hanai'r côr o ardal a oedd wedi gweld ymwneud â'r brigadau rhyngwladol yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac a oedd hefyd, drwy gydddigwyddiad, ynghlwm wrth sefydlu g?yl ddiwylliannol ryngwladol yn enw heddwch a dealltwriaeth. Mae'r erthygl yn ymchwilio i hanes y daith i Sbaen, i'r ddelwedd a gyflwynir o gyfundrefn Franco, ac mae'n gofyn i ba raddau y defnyddiwyd y daith gan Franco fel propaganda wrth i'w bolisi tramor newid gyda dyfodiad y Rhyfel Oer. Siân Edwards, 'Egwyddor a phropaganda: cyfundrefn Franco a Chôr y Rhos', Gwerddon, 15, Gorffennaf 2013, 60-78.
Cynan Llwyd, 'Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder': Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)' (2017)'
Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a'r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â'r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a'i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a'r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i'w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o'r grymoedd pwysicaf ym mywydau'r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru'r ddeunawfed ganrif. Cynan Llwyd, '“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)', Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.
Y Meddwl Modern: Marx – Howard Williams
Darlun o fywyd Karl Marx: ei syniadau, gwreiddiau ei athroniaeth a'i ddylwanwad ar y byd.
Y Meddwl Modern: Durkheim – Huw Morris Jones
Emile Dukheim oedd y cyntaf erioed i ddal cadair brifysgol mewn cymdeithaseg, a deil ei syniadau'n sylfaenol bwysig i bawb a fyn ddeall gwreiddiau'r pwnc. Mabwysiadodd y ddelwedd o gymdeiths fel organeb, a phob aelod ohoni â'i swyddogaeth neilltuol i'w chyflawni er mwyn sicrhau lles y corff cyfan. Ymhlith ei syniadau y mae ei ddadansoddiad o wreiddiau cymdeithasol crefydd, yn arbennig yr awgrym mai 'addoli'r gymdeithas' a wneir mewn unrhyw addoliad crefyddol; ei bwyslais ar yr hyn a alwai yn 'anomi' fel gwreiddyn anghydfod ac aflonyddwch ym mywyd unigolyn a chymdeithas; a'i astudiaeth wreiddiol a phwysig o hunanladdiad fel ffenomen gymdeithasol. Gwelir ei ddylanwad mewn meysydd mor wahanol â throseddeg ar y naill law a beirniadaeth lenyddol ar y llall.