Dyma gyfres o bosteri sy'n cynnwys geirfa allweddol dwyieithog i gefnogi'r cwrs Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd. Mae poster geirfa unigol ar gyfer y 5 uned: Uned 1: Egwyddorion a Gwerthoedd Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (0-19 oed) Uned 2: Iechyd, Llesiant, Dysgu a Datblygiad Uned 3: Ymarfer Proffesiynol fel Gweithiwr Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Uned 4: Diogelu Plant Uned 5: Iechyd a Diogelwch mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
Posteri Geirfa Dwyieithog Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar
Gyrfa Cymru: Gweminar a llyfr gwaith Gofal Cymdeithasol (Blynyddoedd Cynnar)
Adnodd i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3 ddarganfod mwy am yrfa yn y sector gofal cymdeithasol (blynyddoedd cynnar). Bydd dysgwyr yn gallu gwylio gweminar ac yn cwblhau llyfr gwaith
Adnoddau Dysgu ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru
Isod ceir ddolen i'r adran adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae'r adnoddau yma'n berthnasol ar gyfer addysgwyr a dysgwyr yn y meysydd Iechyd a Gofal Plant. Yn ogystal, mae dolen i ddogfen sy'n nodi'r adnoddau ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru sy’n berthnasol ar gyfer unedau penodol o fewn y cyrsiau Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 a 3.
Adnodd hyfforddi i gefnogi gweithio dwyieithog: Urddas, iaith a gofal
Mae’r pecyn canlynol ar gyfer unigolion sy’n dymuno cyflwyno sesiwn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith i’w dysgwyr. Hyd y sesiwn yw un awr. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer: myfyrwyr Lefel 1, 2, 3, 4 a 5 iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal plant tiwtoriaid ac aseswyr mewn colegau myfyrwyr gofal/gwaith cymdeithasol neu ofal plant mewn prifysgolion. Mi allai hefyd gael ei ddefnyddio fel rhan o hyfforddiant mewn swydd ar gyfer gweithwyr yn y meysydd uchod a gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Nod y pecyn yw arfogi hyfforddwyr i gyflwyno gwybodaeth am iaith a thrafod sut i weithio’n ddwyieithog gyda’u dygwyr. Cyflwynir y pecyn ar ffurf PowerPoint gyda nodiadau hyfforddwr i gefnogi pob sleid. Mae’r nodiadau hyfforddwr yn cyflwyno sgript arweiniol, yn ogystal ag yn cynnig ambell i syniad am sut i gyflwyno tasgau ac annog y dysgwyr i fod yn rhagweithiol yn y sesiwn. Datblygwyd yr adnoddau gan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Prentis-iaith
Mae'r cyrsiau byr hyn ar gyfer prentisiaid sydd yn awyddus i fagu eu hyder i ddefnyddio'u Cymraeg yn y gweithle. Maent yn galluogi'r prentisiaid i gwblhau rhywfaint o'u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cyrsiau ar gael ar bedwar lefel: Ymwybyddiaeth, Dealltwriaeth, Hyder, Rhuglder ac mae cwis ar gael i ganfod pa lefel sy'n addas ar eich cyfer.