Daw dau draddodiad cerddorol gwahanol iawn ynghyd wrth i'r gantores Lleuwen Steffan recordio ei halbwm, 'Duw A Ŵyr'. Cawn ddilyn Lleuwen ar ei thaith ysbrydol a cherddorol yn ystod y broses o greu'r gryno ddisg. Cwmni Da, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Dyddiadur Ellis: Y Claf Cyntaf (2014)
Hogyn ifanc o Drawsfynydd oedd Ellis Williams a ymatebodd fel llawer iawn o'i gyfoedion i'r alwad i fynd i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym mrwydr enwog Coed Mametz, dioddefodd anafiadau difrifol i'w wyneb. Treuliodd ddwy flynedd mewn ysbyty milwrol yn Ffrainc gan dderbyn llawdriniaethau arloesol lu mewn ymgais i ail-adeiladu ei wynepryd. Yn 1924, ysgrifennodd Ellis gofnod o'i brofiadau rhyfeddol, cofnod a fu o dan glawr tan nawr. Yn y rhaglen hon daw Huw Garmon â geiriau Ellis Williams yn fyw gan greu darlun gonest a theimladwy o fywyd milwr cyffredin o Gymro mewn rhyfel yn ei holl erchylltra. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Ewsgadi: Gwlad y Basg (1989)
Eddie Ladd sy'n cyflwyno rhaglen o Ewsgadi, sef Gwlad y Basg. Mae'r rhaglen yn edrych ar ddirywiad yr iaith, problemau diweithdra, yr amgylchedd, colli diwylliant ac ati. Criw Byw, 1989. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch: Man Geni'r IRA (2007)
Frongoch ger y Bala yng Ngogledd Cymru oedd y man lle carcharwyd 1,800 o wrthryfelwyr Gwyddelig ar ôl terfysgaeth Pasg 1916. Bathwyd y lle yn 'Brifysgol Gwrthryfel', ac yno casglwyd byddin gwrthryfel Iwerddon, yr IRA, at ei gilydd, ac yno cynlluniwyd ar gyfer y cyfnod gwaedlyd i ddod. Ai dyma gamgymeriad mwyaf Prydain? Cwmni Da, 2007. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Frongoch: Prifysgol Chwyldro (1988)
Saethu dwsin yn farw a carcharu 1,800 o ddynion. Dyna oedd ymateb llywodraeth Prydain i wrthryfel y pasg 1916 yn Iwerddon. Daeth y rhan fwyaf i Gymru, i bentref Frongoch ger y Bala. Rhan y carchar hwn yn y frwydr am ryddid Iwerddon yw pwnc y rhaglen. Yn cael eu cyfweld y mae Ambrose Bunrs, Dulyn; William Mullins, Tralee Kerry; Joni Roberts; Dewi Williams (hanesydd) a Morris Roberts (mab Bob Roberts, Tair Felin). Ffilmiau'r Nant, 1988. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Geraint Jarman a Bob Marley (2005)
Mae'r cerddor, cyfansoddwr a'r bardd Geraint Jarman wedi cael ei ddylanwadu'n fawr gan gerddoriaeth y Caribî - yn enwedig gwaith Bob Marley. Yn y rhaglen hon, mae Geraint yn mynd ar bererindod i Jamaica i ddarganfod mwy am y dyn a'i fiwsig sydd yn golygu gymaint iddo. Wrth siarad â chyfeillion yr ynys, mae'n dod i adnabod Bob Marley fel dyn, nid yr eicon arferol. Yr ydym yn holi nifer o gerddorion Cymraeg am ddylanwad bywyd a cherddoriaeth Bob Marley arnynt hwy. Uchafbwynt y rhaglen yw Geraint yn recordio teyrnged i'r dyn ei hun, 'Gerddi Babylon' yn yr un stiwdio a arferai Bob ei ddefnyddio, Tuff Gong. Acme, 2005. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gerallt (2013)
Rhaglen ddogfen onest a threiddgar o'r Prifardd Gerallt Lloyd Owen sy'n codi'r llen ar gymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rhai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd, ei ofnau a'i ellyllon. Gyda darlleniadau o rai o'i gerddi pwysicaf, mae'r rhaglen hon yn treiddio'n ddyfnach i'r themâu sydd wedi cydio ynddo gydol ei oes. Cwmni Da, 2013. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Graffiti (pennod 1) (1990)
Twm Morys a Llinos Ann sy'n cyflwyno. Mae'r rhaglen yn cynnwys yr eitemau canlynol: agoriad arddangosfa'r artist Keith Andrew yn Amgueddfa'r Gogledd, Llanberis; Steve Eaves yn canu 'Tir Neb'; Bardd yr Wythnos; Geraint Tilsley yn adrodd 'Muriau'; eitem ar y cerflunydd a'r llenor, Jonah Jones, a Bob Delyn a'r Ebillion yn perfformio 'Pethe'. HTV Cymru, 1990. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Gwaed Gwirion (2014)
Gwaed Gwirion gan Emyr Jones yw'r brif nofel yn y Gymraeg am y Rhyfel Byd Cyntaf. Ers ei chyhoeddi ym 1965, mae wedi ennill clod gan feirniaid a gwybodusion fel campwaith a chlasur a chafodd y gwaith ei gydnabod gan yr Academi Gymreig gan ennill gwobr Griffith John Williams am nofel Gymraeg deilyngaf y flwyddyn. Yn y rhaglen ddogfen hon, cawn hanes a chefndir y gyfrol a'i hawdur wrth i'r Athro Gerwyn Wiliams ein tywys ar daith gan ddilyn y cymeriadau trwy feysydd brwydro Fflandrys a Ffrainc. Bydd yn taflu goleuni newydd ar amgylchiadau creu'r gwaith ac yn datgelu gwybodaeth amdani a fydd yn creu cryn gynnwrf yn y byd llenyddol yng Nghymru. Ffranc, 2014. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Cyrchfan Cyfiawnder – Siartwyr Casnewydd 1839 (1994)
Rhaglen yn edrych ar Wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd yn 1839. Cymerodd ugain mil o wŷr y De arfau i'w dwylo er mwyn troi Ynys Prydain yn Weriniaeth y Bobl. Boddwyd gwrthyfel y Siartwyr mewn gwaed a llusgwyd yr arweinwyr i'r llysoedd. Teliesyn, 1994. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.
Atgofion Gohebydd o Gymro (1983)
Rhaglen am David Raymond, yn enedigol o Gydweli, ond sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mharis. Gohebydd tramor ydoedd, yn gweithio i'r Daily Mail, Raynolds News a'r Daily Mirror. Glansevin, 1983.
Bilbao, Belffast a Bala
Yr artist a’r beirniad celf Iwan Bala fydd yn edrych ar gelf gyhoeddus yng Nghymru a thramor ac yn holi, beth yn union yw celf gyhoeddus. Oherwydd rhesymau hawlfraint bydd angen cyfrif Coleg Cymraeg i wylio rhaglenni Archif S4C. Mae modd ymaelodi ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gael cyfrif.